Dyn, 26, wedi marw tridiau ar ôl ymosodiad yn Aberaman

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Llun teulu
disgrifiad o’r llunDywedodd teulu Luke Williams eu bod wedi eu "llorio" gyda'i farwolaeth

Mae dyn 26 oed wedi marw yn dilyn ymosodiad yn Aberaman, Rhondda Cynon Taf ar 16 Rhagfyr.

Bu farw Luke Williams o'i anafiadau yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ddydd Iau, meddai Heddlu'r De.

Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Williams eu bod wedi eu "llorio" gyda'i farwolaeth.

Roedd dyn 52 oed o Aberaman, Andrew John Davies, eisoes wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol.

Dywedodd yr heddlu nad oedd swyddogion yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad a'u bod yn cysylltu â Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chrwner EM yn dilyn marwolaeth Mr Williams.