Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol

A468 Image copyright Google
Image caption Roedd y ffordd A468 ar gyrion Caerffili wedi cau am sawl awr wedi'r gwrthdrawiad

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddynes farw mewn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf ddydd Mawrth.

Fe gafodd dau berson eu cludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn dilyn y digwyddiad ar ffordd yr A468, Allt Nantgarw ger cyffordd Heol y Dderwen am 10:20 fore Mawrth.

Yn ôl yr heddlu un car oedd yn y gwrthdrawiad ble bu farw dynes 57 oed o Gaerffili.

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad i'w ffonio ar 101 gan gyfeirio at achos 1900470986.

Pynciau Cysylltiedig