Dyn 48 oed yn marw mewn gwrthdrawiad ar yr A465

Ardal cyffordd Tonna o'r A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd rhwng cyffyrdd Tonna a Mynachlog Nedd

Mae Heddlu De Cymru'n apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad angheuol ar ddiwrnod Nadolig.

Bu farw cerddwr - dyn 48 oed - yn y fan a'r lle wedi'r digwyddiad o gwmpas 17:00 ddydd Mercher, 25 Rhagfyr ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd ger Castell-nedd.

Dywed y llu bod yna wrthdrawiad ar gyffordd yr A465 rhwng cyffyrdd Tonna a Mynachlog Nedd yn cynnwys Toyota Aygo du, VW Beetle coch a'r cerddwr.

Mae'r heddlu wedi diolch i'r gymuned leol am eu hamynedd tra bo'r ffordd ar gau wrth gynnal ymholiadau i'r gwrthdrawiad.

Maen nhw'n apelio am wybodaeth neu luniau dash cam o'r gwrthdrawiad, ac yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y Toyota Aygo cyn y digwyddiad.

Maen nhw'n gofyn i bobl gysylltu â nhw trwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 1900472034.

Pynciau Cysylltiedig