Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 Millwall

Aden Flint Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Aden Flint sgoriodd i Gaerdydd

Roedd disgwyliadau uchel cyn y gêm hon wrth i Neil Harris wynebu ei gyn-glwb am y tro cyntaf ers cael ei benodi'n rheolwr Caerdydd.

Daeth cyfle gwirioneddol cyntaf y gêm 20 eiliad cyn yr hanner, Ergyd Robert Glatzel yn cael ei harbed yn wych gan Bartzosz Bialkowski yn y gôl i Millwall.

Wedi hanner cyntaf difflach fe gymrodd hi 59 munud cyn i'r dorf cael eu cyffroi yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Cic gornel o'r asgell dde yn hedfan heibio i bawb ac roedd amddiffynnwr canol yr Adar Gleision ar y postyn pellaf i roi'r bel yng nghefn y rhwyd o dair llath.

Pedwar munud yn ddiweddarach roedd y sgôr yn gyfartal. Cic rydd wych gan Jed Wallace yn hedfan i gornel uchaf y rhwyd o 30 llath.

Er gwaethaf ymdrechion y ddau dîm i sgorio eu hail gôl, daeth y gêm i ben yn gyfartal.