Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Fairbourne

Rhodfa Francis, Fairbourne Image copyright Google

Mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio dyn 75 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yn Fairbourne ddiwrnod Nadolig.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 20:00 i Rodfa Francis yn dilyn adroddiadau fod dynes 74 oed wedi dioddef anafiadau difrifol.

Fe wnaeth parafeddygon gadarnhau fod y ddynes wedi marw yn y fan a'r lle, er gwaethaf ymdrechion i'w hadfywio.

Dywedodd y Ditectif Prifarolygydd Brian Kearney o'r llu: "Yn dilyn presenoldeb yr heddlu mewn cyfeiriad yn Rhodfa Francis, mae dyn 75 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.

"Mae'r crwner wedi cael gwybod ac fe allai sicrhau'r cyhoedd nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad."

Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i deulu'r ddynes.