Pro14: Gleision 16-12 Dreigiau

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionRoedd Josh Navidi yn chwarae ei gêm gyntaf o'r tymor i'r Gleision

Llwyddodd y Gleision i ennill yn erbyn y Dreigiau mewn gêm ddarbi agos ym Mharc yr Arfau.

Roedd y tîm cartref i weld yn gyfforddus ac yn llwyr reoli'r gêm ar ôl i Shane Lewis-Hughes groesi am gais cynnar.

Fe giciodd Jarrod Evans yn gywir ac unwaith eto gyda chic gosb.

Fe wnaeth Taine Basham sgorio cais i'r Dreigiau cyn hanner amser.

Yn fuan yn yr ail hanner fe diriodd Matthew Screech i roi gobaith i'r Dreigiau.

Ond llwyddodd Evans i gicio'n gywir unwaith yn rhagor ac roedd cic gan Jason Tovey yn ddigon i selio'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.

Pynciau Cysylltiedig