Pro14: Scarlets 44-0 Gweilch

Steff Evans Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe groesodd Steff Evans ddwy waith i'r Scarlets yn erbyn y Gweilch

Fe wnaeth y Scarlets ennill yn gyfforddus a sicrhau pwynt bonws yn erbyn y Gweilch nos Iau.

Fe sgoriodd Ryan Conbeer a Steff Evans ddau gais yr un gyda Kieran Hardy a Josh Macleod hefyd yn croesi i ychwanegu at gyfanswm o chwe chais i'r tîm cartref.

Sgoriodd Leigh Halfpenny 12 pwynt gyda'i gicio wrth i'r Scarlets godi i'r ail safle.

Dyma oedd 12fed colled y Gweilch mewn 13 gêm wrth iddyn nhw fethu a sgorio unrhyw bwynt yn y gêm ddarbi leol.

Pynciau Cysylltiedig