Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol ym Mrynmawr

A467 Image copyright Google
Image caption Fe gafodd y ddynes ei tharro gan gar ar ffordd yr A467

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ym Mrynmawr ddydd Iau.

Fe gafodd swyddogion eu galw i ffordd yr A467 am 09:10 i adroddiadau fod gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr.

Bu farw dynes 32 oed oedd yn cerdded yn y fan ar lle.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu, yn enwedig os oes ganddyn nhw gamerau y tu fewn i'w ceir.