Tad i ddau fu farw mewn gwrthdrawiad

Darran Peter Fellowes Image copyright Family photo
Image caption Darran Peter Fellowes

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi mai Darran Peter Fellowes oedd y dyn 48 fu farw mewn gwrthdrawiad ar Ddydd Nadolig.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 17:00 ar yr A465 ger Aberdulais pan darodd dau gar - Toyota Aygo du a VW Beetle coch - yn erbyn ei gilydd a Mr Fellowes o Sgiwen.

Er gwaetha' ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Mr Fellowes yn y fan a'r lle.

Mae gadael gwraig, Donna, dau o blant, Thomas a Jack, ei fam, mam-yng-nghyfraith a chwaer.

Dywedodd ei deulu mewn datganiad: "Mae Donna a Darran wedi bod gyda'i gilydd er pan yn 19 oed ac wedi byw yn ardal Llansawel a Sgiwen erioed.

"Roedd Darran yn ddyn teulu ac wrth ei fodd gyda'i ddau fab yn eu gwylio'n chwarae rygbi neu trwsio un o'u cerbydau.

"Yn ystod yr wythnos roedd yn aml yn gweithio i ffwrdd ar draws y wlad cyn dychwelyd i dreulio amser gyda'i deulu.

"Roedd yn byw bywyd i'r eithaf ac fe fydd colled enfawr ar ei ôl."

Mae Heddlu'r De yn parhau i apelio am unrhyw dystion allai fod â lluniau 'dash-cam' o'r digwyddiad neu a welodd y modd yr oedd y car Toyota'n cael ei yrru. Maen nhw'n gofyn i bobl ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod *472034.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol