Cynllun newydd i geisio atal digartrefedd

GISDA Image copyright GISDA
Image caption Mae gan elusen GISDA ganolfannau yng Nghaernarfon a Blaenau Ffestiniog

Mae cynllun arloesol gwerth £40,000 yn cael ei lansio er mwyn ceisio atal digartrefedd ymysg pobl ifanc Gwynedd, sydd wedi gweld cynnydd aruthrol dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Yn y cyfnod yna, mae cynnydd o 575% wedi bod yn nifer y bobl ifanc digartref yn y sir.

Mae elusen cefnogi'r diagartref GISDA wedi cael ei chomisiynu gan Gyngor Gwynedd i gyrraedd pobl ifanc sydd mewn argyfwng cyn iddyn nhw ddod yn ddigartref.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, aelod cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb am blant a phobl ifanc: "Pan ydan ni'n siarad am ddigartrefedd, ry'n ni'n aml yn meddwl am bobl yn byw ar strydeodd mewn dinasoedd mawrion.

"Ond mewn gwirionedd mae nifer o bobl ifanc heb gartre' parhaol yn symud o soffa i soffa a byw yn y tymor byr iawn gyda ffrinidiau neu berthnasau.

"Ry'n ni am gynorthwyo ein pobl ifanc fel eu bod nhw'n llwyr ymwybodol o'r cymorth a chefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw yma yng Ngwynedd.

"Drwy siarad gyda phobl ifanc ar y cyfle cyntaf, ry'n ni am ddangos iddyn nhw nad ydyn nhw ar ben eu hunain, a'i bod yn iawn i ofyn am help."

Image copyright GISDA
Image caption Mae Andrew Smalley wedi gweithio gyda GISDA ers 10 mlynedd

Mae GISDA, sydd â chanolfannau yng Nghaernarfon a Blaenau Ffestiniog, wedi gweithio gyda dros 2,000 o bobl ifanc dros y pum mlynedd diwethaf.

Ond maen nhw hefyd wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y bobl ifanc sy'n cael eu cyfeirio atyn nhw dros y ddau ddegawd diwethaf. Fe wnaethon nhw gefnogi 83 o bobl yn 2000, ond roedd hynny wedi cynyddu i 561 rhwng Ebrill 2018-Ebrill 2019.

Bydd y cynllun newydd yn gweld plant ysgol a phobl ifanc rhwng 16-24 oed yn cael mynediad i weithdai am ddim mewn ysgolion a thrwy brosiectau ieuenctid a chymunedol.

Y nod yw codi ymwybyddiaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i'r rhai sydd mewn argyfwng er mwyn annog pobl ifanc i ofyn am help yn gynt.

'Colli rhieni'n 14'

Un aelod o'r tîm yw Andy Smalley. Mae wedi bod yn gweithio gyda GISDA ers 10 mlynedd ers iddo gael cefnogaeth ei hun gan yr elusen ar ôl colli ei ddau riant pan yn 14 oed. 

Dywedodd: "Fe glywais i am GISDA am eu bod nhw wedi fy helpu. Bu farw fy nhad o drawiad, ac yna aeth mam yn sâl iawn cyn marw yn yr ysbyty o waedlif ar ei hymennydd.

"Ro'n i'n 14 a fy chwaer yn 16 ac roedd risg y bydden ni'n dau yn ddigartref. Roedden ni ond yn medru aros yn ein cartref diolch i'r gefnogaeth a gawsom gan GISDA ar y pryd.

"Roedd y cymorth gan ein gweithiwr cefnogol yn GISDA yn wych. Fe gafon ni gymorth gyda thenantiaeth y cartref a gyda'r gwaith cynnal a chadw arno."

O'r 561 o bobl ifanc gafodd gefnogaeth gan GISDA yn y flwyddyn hyd at Ebrill eleni, roedd 58% yn ddigartref oherwydd chwalu perthynas deuluol. 

Roedd gan fwy na hanner y bobl ifanc drafferthion iechyd meddwl, roedd 45% yn mynd o soffa i soffa ac roedd 5% yn byw ar y stryd.

Ychwanegodd Mr Smalley: "Mae'n mynd yn anodd i bobl ifanc ddod o hyd i waith, a chadw swydd, pan mae cymhlethdodau fel yna'n mynd ymlaen. Dwi'n deall ar brydiau fod pobl ifanc am ddianc o'r bywyd yna a throi at gyffuriau neu alcohol er mwyn gwneud hynny.

"Yn aml mae ganddyn nhw ofn."

Image copyright GISDA
Image caption 'Bydd yr arian yn gymorth i gefnogi pobl ifanc', medd Sian Tomos - prif weithredwr GISDA

"Ry'n ni'n croesawu'r arian am y cynllun yma er mwyn ymyrryd yn gynt a chodi ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth. Mae'n bwysig fod pobl yn teimlo'n gyffyrddus wrth droi at wasanaethau cymorth a chefnogaeth.

"Mae cysgu ar y stryd hefyd yn broblem yng Ngwynedd - ddim yn un gweledol iawn efallai ond ryddan ni yn ei weld er mewn niferoedd llai na mewn dinasoedd mawr.

"Rwy'n cofio un cwpwl ifanc oedd yn cysgu yn y car. Doedden nhw ddim am i heb eu gweld nhw nac i wybod nad oedd ganddyn nhw unman i aros oherwydd y stigma o fod yn ddigartref."

Dywedodd Sian Tomos, prif weithredwr GISDA: "Bydd yr arian yma yn ein galluogi i redeg ymgyrch dros y pedwar mis nesaf i wneud pobl ifanc yn fwy ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael, a beth i wneud os ydyn nhw'n teimlo eu bod mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddyn nhw adael cartref. 

"Ry'n ni'n gweld mwy a mwy o bobl ifanc yn dod trwy'r drysau bob blwyddyn.

"Mae'n broblem sydd wedi mynd yn waeth oherwydd llymder, newid i'r drefn budd-daliadau a phrinder tai cymdeithasol. 

"Yr hyn sy'n bwysig yw bod person ifanc bregus sy'n benderfynol o adael cartref yn gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael a lle i fynd i'w gael.

"Ry'n ni hefyd am addysgu plant am sut beth yw bywyd os ydyn nhw'n gadael cartref... dydi o ddim yn ddewis hawdd.

"Rhaid i ni hefyd adael iddyn nhw wybod y gall hyn ddigwydd i unrhyw un, ac i beidio bod â chywilydd, ond i wybod lle i fynd am help."

Straeon perthnasol