Ceffyl o Gymru yn ennill y Grand National yng Nghas-gwent

Potters Corner Image copyright Rex Features
Image caption Potters Corners yw'r ceffyl cyntaf o Gymru i ennill y ras ers dros hanner can mlynedd

Potters Corner - ceffyl a gafodd ei hyfforddi yng Nghymru yw enillydd ras Grand National Cymru yng Nghas-gwent.

Y tro diwethaf i geffyl o Gymru gyflawni'r gamp oedd 54 mlynedd yn ôl.

Mae'r ceffyl 9 oed yn eiddo yn rhannol i'r chwaraewr rygbi Jonathan Davies ac yr oedd yn cael ei farchogaeth ddydd Gwener gan y joci Jack Tudor sy'n 17 oed.

Roedd y ceffyl, a enillodd wobr Ceffyl Rasio Cymreig y flwyddyn ym mis Tachwedd, wedi bod yn tragedu'r ras gydol y flwyddyn.

Wedi'r canlyniad roedd Davies sy'n chwarae i'r Scarlets yn neidio gan lawenydd a dywedodd: "Mae'n freuddwyd i ni ac mae Christian Williams sydd wedi bod yn ei hyfforddi yn haeddu pob clod.

"Dwi methu stopio gwenu."

Roedd yna ddau geffyl arall yn amlwg yn y ras sef The Two Amigos a Yala Enki a ddaeth yn ail y llynedd.

Image copyright BBC Sport
Image caption Dyweodd y joci Jack Tudor bod ennill y ras yn eithriadol o bwysig

Dywedodd y joci Jack Tudor bod ennill ddydd Gwener yn "enfawr a'i fod yn gobeithio ennill rasys eraill fel hyn."

Dywedodd yr hyfforddwr na allai'r ras fod wedi mynd yn well i Gymru a'i fod yn diolch am bob cefnogaeth.

Pynciau Cysylltiedig