Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar ar Ddydd Nadolig

Mill Pond Bridge Image copyright David Dixon/Geograph
Image caption Cafodd Jonathan Townsend ei daro ar y bont dros y pwll dŵr ym Mhenfro

Mae dyn 51 oed wedi marw ar ôl iddo gael ei daro gan gar yn Sir Benfro ar Ddydd Nadolig.

Cafodd Jonathan Townsend ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi'r digwyddiad ym Mhenfro, a bu farw yno fore Sadwrn.

Fe wnaeth ei deulu ei ddisgrifio fel "dyn teulu ffyddlon".

Cafodd Mr Townsend ei daro gan gar Skoda Fabia yn y digwyddiad am tua 12:00 ddydd Mercher, ac mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu.

Pynciau Cysylltiedig