Cyhuddo dyn, 75, o lofruddio dynes yng Ngwynedd

Rhodfa Francis Image copyright Google
Image caption Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Rodfa Francis yn Fairbourne ar Ddydd Nadolig

Mae dyn 75 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dynes 74 oed ar Ddydd Nadolig yng Ngwynedd.

Cafodd Vivienne Bryan ei chanfod yn farw mewn eiddo ar Rodfa Francis yn Fairbourne wedi iddyn nhw dderbyn gwybodaeth bod dynes wedi dioddef anafiadau difrifol.

Er yr ymdrechion gan deulu, yr heddlu a pharafeddygon i'w hachub bu farw Ms Bryan.

Mae dyn lleol, Thomas Bryan, wedi cael ei gyhuddo o'i llofruddio ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.

Straeon perthnasol