Y Bencampwriaeth: Sheffield Wednesday 1-2 Caerdydd

Caerdydd Image copyright Rex Features
Image caption Sgoriodd Robert Glatzel i roi'r Adar Gleision ar y blaen o fewn pum munud

Mae rhediad Caerdydd o bedair gêm heb fuddugoliaeth ar ben wedi iddyn nhw drechu Sheffield Wednesday yn Hillsborough ddydd Sul.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen o fewn pum munud, gyda Robert Glatzel yn rhwydo yn dilyn pas glyfar gan Lee Tomlin o gic rydd.

Fe barhaodd y dechrau gwych wrth i Junior Hoilett ddyblu mantais yr ymwelwyr funudau'n unig wedi iddyn nhw fynd ar y blaen.

Ond fe darodd y tîm cartref yn ôl wedi 18 munud wrth i Tom Lees benio croesiad Barry Bannan heibio'r golwr Neil Etheridge i gefn y rhwyd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn codi un safle i 10fed yn y Bencampwriaeth, dau bwynt o safleoedd y gemau ail-gyfle

Straeon perthnasol