Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-0 Barnsley

Abertawe Image copyright Getty Images

Cafodd Abertawe a Barnsley gêm gyfartal ddi-sgôr yn Stadiwm Liberty brynhawn Sul, er i'r ddau dîm cael digon o gyfleoedd.

Y tîm cartref gafodd y cyfleoedd gorau, gydag André Ayew a Bersant Celina yn dod yn agos at sgorio yn yr ail hanner.

Roedd Sam Surridge yn credu ei fod wedi rhoi'r Elyrch ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner, ond fe wnaeth y llumanwr godi ei fflag i nodi ei fod yn camsefyll.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn disgyn i'r nawfed safle yn y Bencampwriaeth, un pwynt o safleoedd y gemau ail-gyfle.

Straeon perthnasol