Adran Dau: Casnewydd 1-1 Leyton Orient

Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Llwyddodd Casnewydd i achub gêm gyfartal wrth iddyn nhw groesawu Leyton Orient i Rodney Parade brynhawn Sul.

Cafodd yr Alltudion ddechrau trychinebus, wrth i'r ymwelwyr fynd ar y blaen o fewn dau funud wedi i beniad Ruel Sotiriou o groesiad Josh Wright ganfod cefn y rhwyd.

Llwyddodd y tîm cartref i unioni'r sgôr gyda 10 munud yn weddill, gyda'r eilydd Pádraig Amond yn rhwydo ei 10fed gôl o'r tymor.

Yn ystod hanner amser cafodd y diweddar Justin Edinburgh - fu'n rheolwr ar y ddau dîm cyn ei farwolaeth yn 49 oed ym mis Mehefin - ei dderbyn i oriel yr anfarwolion Clwb Pêl-droed Casnewydd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn codi i'r 13eg safle yn Adran Dau, gyda dwy gêm yn ychwanegol i'w chwarae o'i gymharu â mwyafrif y timau o'u cwmpas.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bu chwaraewyr y ddau dîm yn rhoi teyrnged i Justin Edinburgh cyn y gêm

Straeon perthnasol