Rhybudd melyn am niwl trwchus i ardaloedd yn y de

  • Cyhoeddwyd
rhybudd niwlFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r rhybudd tywydd mewn gym ar draws rhannau o dde Lloegr a de Cymru

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am niwl trwchus dros dde Cymru allai effeithio ar deithio a hediadau.

Mae'r rhybudd mewn grym o 17:00 ddydd Llun tan 23:59 ac yn effeithio ar 12 awdurdod lleol yn ne ddwyrain a de orllewin y wlad.

Fore Llun cafodd awyren Ryanair ei chyfeirio o Gaerdydd i lanio ym Mryste o ganlyniad i'r niwl.

Bydd yr ardaloedd isod yn cael eu heffeithio gan y niwl:

  • Abertawe;
  • Blaenau Gwent;
  • Bro Morgannwg;
  • Caerffili;
  • Caerdydd;
  • Casnewydd;
  • Castell Nedd Port Talbot;
  • Merthyr Tydfil;
  • Sir Fynwy;
  • Rhondda Cynon Taf;
  • Torfaen.