Dartiau: Gerwyn Price yn colli i Peter Wright

  • Cyhoeddwyd
Peter WrightFfynhonnell y llun, Lluniau Getty
Disgrifiad o’r llun,
Fe wrthododd Wright a Price ysgwyd llaw ar ddiwedd y gêm

Mae'r Cymro Gerwyn Price wedi methu yn ei ymgais i gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd PDC ar ôl colli i Peter Wright o 6-3.

Fe fydd yr Albanwr 49 oed yn wynebu pencampwr y llynedd, Michael van Gerwen, neu Nathan Aspinall yn y rownd derfynol.

Fe gurodd Wright y Cymro gyda 16 180, a chyfartaledd o 98.39 ar draws y gêm.

Wrth siarad ar ôl yr ornest dywedodd yr Albanwr fod y ddau wedi bod yn herio ei gilydd cyn y gêm.

Ffynhonnell y llun, Lluniau Getty
Disgrifiad o’r llun,
Fe wrthododd Wright a Price ysgwyd llaw ar ddiwedd y gêm

"Dywedodd [Price] ei fod yn mynd i ennill y ddwy set gyntaf. Rwy'n ei hoffi, ond doeddwn i ddim yn gwerthfawrogi'r hyn a wnaeth."

Ar ddiwedd y gêm fe wrthododd y ddau ysgwyd llaw.

Bydd y rownd derfynol ym Mhalas Alexandra ar Ddydd Calan.