Trywanu Caernarfon: Apêl arall i ddod o hyd i ddyn

  • Cyhoeddwyd
Llys Buddug, Pendalar, CaernarfonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd yr heddlu eu galw i fflatiau Llys Buddug nos Sul, 29 Rhagfyr

Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i chwilio am un dyn mewn cysylltiad ag ymgais i lofruddio honedig yng Nghaernarfon ar 29 Rhagfyr.

Yn dilyn apêl ar Nos Galan, mae'r heddlu bellach wedi canfod Mark Griffiths - neu Mark Fango fel mae'n cael ei adnabod yn lleol.

Mae'r heddlu'n parhau i chwilio am Craig Oulton - neu Craig Batman - gan eu bod yn credu fod ganddo "wybodaeth a allai fod yn hanfodol i'r ymchwiliad".

Cafodd dyn arall 33 oed ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad yn Llys Buddug, Pendalar ac ers hynny mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.

Mae'r dyn 35 oed a gafodd ei anafu bellach wedi gadael yr ysbyty.

Dywedodd yr heddlu y bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth frys yn Ysbyty Gwynedd ar ôl cael ei drywanu sawl tro.

Mae ymholiadau'r heddlu'n parhau ond dywedodd llefarydd nad oedden nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar hyn o bryd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod 19100760630.