Arestio dyn yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr

  • Cyhoeddwyd
Stryd Fawr, BlainaFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd Fawr, Blaina am 00:35 fore Iau

Mae dyn 25 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr ym Mlaenau Gwent.

Cafodd dyn 33 oed ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ar Stryd Fawr, Blaina yn gynnar ddydd Iau, 2 Ionawr.

Mae ei gyflwr yn sefydlog, yn ôl Heddlu Gwent, sy'n apelio am wybodaeth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 00:35 ac mae rhan o'r stryd yn dal ar gau i gerbydau a cherddwyr.

Dywed y llu bod y dyn sy'n cael ei holi yn y ddalfa yn dod o ardal Blaina.

Maen nhw'n gofyn i unrhyw un all helpu'r ymchwiliad ffonio 101 neu linell Taclo'r Tacle ar 0800 555 111, neu i gysylltu â nhw ar-lein gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2000001314.