Hela'r dryw a dathlu diwedd y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
drywFfynhonnell y llun, Andrew_Howe
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Hela'r Dryw yn draddodiad yng Nghymru i nodi Noson Ystwyll

Er yn dipyn llai o beth y dyddiau yma, roedd Noson Ystwyll, sydd yn dynodi diwedd dathliadau'r Nadolig, yn arfer bod yn draddodiad pwysig iawn yng Nghymru.

Yn cael ei ddathlu ar 5 neu 6 o Ionawr, dyma oedd diwedd y cyfnod o wyliau, gyda phobl yn ymgasglu yn nhai ei gilydd, cyn mynd yn ôl i weithio.

Yr hanesydd gwerin o'r Wyddgrug, Eirlys Gruffydd, fu'n egluro beth yn union oedd ynghlwm â'r dathliadau a'r traddodiadau gwahanol oedd yn bwysig yng Nghymru ar un adeg.

Pryd mae Noson Ystwyll - 5 neu 6 Ionawr?

"Dwi'n ansicr, a dweud y gwir, ai'r pumed noson neu'r chweched diwrnod. Ma' 'na ryw ddryswch wedi bodoli ers 1752, pan ddaru nhw newid o un calendr i'r llall.

"Ond yn sicr ar 6 Ionawr, mae'r eglwys yn dathlu Nos Ystwyll - Epiphany, y diwrnod y dywedir fod y doethion wedi dod i ymweld â'r baban Iesu.

"Mae'n ddiddorol, achos mae 'na seren yn hanes y doethion, ac ystyr 'ystwyll' ydi cyfuniad o ddau air - stella yn Lladin, a gŵyl yn Gymraeg."

Sut oedd y Cymry yn dathlu?

"Dyma'r diwrnod pan oedd popeth yn gorffen, yr holl hwyl a rhialtwch dros y Nadolig, ac o'dd rhaid mynd yn ôl i fywyd 'normal'.

"Yr eglwys fyddai'n gyfrifol am y Nadolig a'r Plygain, ond wedyn, mi oedd hwyl y cyfnod - y Fari Lwyd, Hela'r Dryw, a mynd o gwmpas flwyddyn newydd i ganu Calennig - yn bwysig iawn, yn bwysicach i'r werin, mewn gwirionedd na'r Nadolig.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,
Y Fari Lwyd yn Llangynwyd - roedd criw yn mynd â phenglog ceffyl o dŷ i dŷ, yn canu i geisio cael mynediad

"Doedd 'na'm gwaith i'w 'neud ar y tir, o'dd y ddaear yn farw, ac o'dd o'n gyfnod i bobl gael ymlacio a mwynhau.

"O'ddan nhw'n mynd i dai ei gilydd ac o'dd 'na fwyd a diod a hwyl a d'eud straeon. O'dd o'n gyfnod gwyliau hir a dyma oedd diwedd y gwyliau."

Pam fod pobl yn 'hela'r dryw' ar Noson Ystwyll?

"Mi oedden nhw'n credu mai'r dryw oedd brenin yr adar, felly symbol o ladd brenin sydd ganddon ni yma. Mi oedd 'na deimlad yn yr hen ddyddiau o 'blwyddyn newydd, brenin newydd' - lladd yr hen frenin a dechrau ar ryw fath o gyfnod newydd.

"O'ddan nhw'n rhoi corff y dryw mewn bocs bach wedi ei wneud ar ffurf tŷ, efo rhubanau, ac oedden nhw'n cario'r dryw o un tŷ i'r llall. O'dden nhw'n canu wrth ddrysau'r tai, yn debyg i'r Fari Lwyd.

"O'dd pobl yn croesawu'r dryw i mewn oherwydd ei fod o'n symbol o frenhiniaeth, ac oedd 'na fwyd a diod a rhialtwch."

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,
Roedd corff dryw yn cael ei gludo o dŷ i dŷ mewn bocs fel yr un yma gan Richard Cobb, clochydd eglwys Marloes, Sir Benfro, yn 1869

Pa draddodiadau eraill oedd pobl yn ei wneud yn ystod y cyfnod yma?

"Oedden nhw'n codi dŵr o'r ffynnon ar ddydd Blwyddyn Newydd ac yn mynd ag ef i dai, ac yn tywallt y dŵr mewn gwahanol stafelloedd a dros y bobl, [fel symbol o] burder a chychwyn o'r newydd.

"Hefyd, roedd rhaid i chi fynd â darn o lo i'r tŷ, i chi gael lwc - roedd lwc ac anlwc yn amlwg iawn yr adeg yma o'r flwyddyn."

Pa mor bwysig oedd y traddodiadau yma?

"'Dan ni wedi colli'r traddodiad - mae cymdeithas wedi newid, ac yn dal i newid o flwyddyn i flwyddyn.

"Ond yn sicr yn yr hen ddyddiau, hwn oedd Y gwyliau - roedd pobl yn mwynhau cyfnod y Nadolig.

"Roedd yn bwysig, gyda'r nosweithiau mor hir, a'r tywydd yn oer, ac eto, mae 'na gynhesrwydd - pobl yn mynd o gwmpas i gartrefi ei gilydd ac yn croesawu ei gilydd. Ac oedd o'n clymu'r gymdeithas yn agosach, ac mewn cymdeithas wledig, wasgaredig, roedd cymdogaeth dda mor eithriadol o bwysig.

"'Dan ni 'di colli'r math yna o gymdeithas, i ryw raddau, ac felly mae'r arferion eraill, mwy seciwlar, wedi dod i mewn."

Hefyd o ddiddordeb: