Ciwiau chwe milltir yn achosi oedi wedi gwrthdrawiad M4

Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru

Bu traffig yn ciwio am hyd at chwe milltir ar yr M4 fore Mawrth yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd.

Dywedodd Traffig Cymru bod amser teithio rhwng cyffyrdd 33 (Gorllewin Caerdydd) a 35 (Pencoed) wedi bod yn awr ac 20 munud.

Cafodd un lôn i gyfeiriad y dwyrain ei chau am tua 07:40 wrth i'r cerbydau gael eu symud.

Dywedodd y gwasanaeth traffig bod y ciwiau wedi gostegu erbyn 10:30.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolGweld mwy ar Twitter