Rhian Brewster yn symud i Abertawe o Lerpwl

  • Cyhoeddwyd
Rhian BrewsterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Brewster yn y tîm a gurodd Everton yn nhrydydd rownd Cwpan FA Lloegr ddydd Sul ar ôl dod i'r cae fel eilydd

Mae ymosodwr Lerpwl, Rhian Brewster wedi arwyddo cytundeb i ymuno ag Abertawe ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.

Mae'n debygol o chwarae am y tro cyntaf i'r Elyrch yn y gêm ddarbi yn erbyn Caerdydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul.

Roedd yr Elyrch yn chwilio am chwaraewr i gymryd lle Sam Surridge, a ddychwelodd i Bournemouth yr wythnos ddiwethaf wedi cyfnod ar fenthyg yn Stadiwm Liberty.

Mae hyfforddwr Abertawe, Steve Cooper, wedi edmygu Brewster ers cydweithio â'r chwaraewr 19 oed pan roedd yn hyfforddi tîm dan-17 Lloegr.

Brewster sgoriodd y nifer uchaf o goliau pan gurodd carfan Cooper bencampwriaeth Cwpan y Byd dan-17 yn 2017.

Mae bellach wedi ei gynnwys yng ngharfan dan-21 Lloegr.