Newid enwau tai o Gymraeg i Saesneg yn 'buro ieithyddol'

Liam Evans
Gohebydd BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd
Arwydd gwrthu tŷ ym Mae Trearddur
Disgrifiad o’r llun,
Llan Tropez yw enw un eiddo ym Mae Trearddur

Mae newid enwau tai o'r Gymraeg i'r Saesneg gyfystyr â "phuro ieithyddol", yn ôl cynghorydd o Gaergybi.

Dywedodd Vaughan Williams fod angen i Lywodraeth Cymru ddeddfu i sicrhau nad ydi hanes a threftadaeth y wlad yn cael ei anghofio.

Daw ei sylwadau yn dilyn ymateb ar wefannau cymdeithasol i enw hen fecws ger Pentraeth sydd bellach yn dŷ haf o'r enw The Gingerbread House.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried enwau lleoedd ac eiddo hanesyddol fel "elfennau hanfodol o dreftadaeth Cymru".

Roedd Mr Williams wedi ysgrifennu ar Twitter fod newid enwau ar dai yn weithred oedd â'r "amcan fwriadol o ddileu iaith leiafrifol a'i disodli efo iaith y mwyafrif".

Mewn cyfweliad i BBC Cymru, dywedodd: "Mae'n amser inni torchi llewys fel Cymru, mwy nag erioed.

"Mae 'na ystyr hanesyddol i'r enwau hyn a dyna sydd wedi cynddeiriogi fi'n bersonol."

Disgrifiad o’r llun,
Vaughan Williams: "Mae'n amser torchi llewys fel Cymry"

Yn ôl Cyngor Môn, roedd 2,619 o eiddo ar yr ynys yn cael eu cydnabod ddiwedd mis Medi fel ail gartref neu gartref gwyliau, mewn ardaloedd fel Bae Trearddur a Rhosneigr.

Tra bod trethi ychwanegol ar y tai hyn does dim deddf yn gorfodi trigolion newydd i gadw enwau Cymraeg hanesyddol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn eu bod yn annog unigolion i gadw "enwau cyfredol" ond "nid oes unrhyw ddeddfwriaeth genedlaethol o ran gorfodaeth, fyddai'n galluogi unrhyw awdurdod i atal newid enw tŷ o'r Gymraeg i'r Saesneg".

Mewn ardaloedd fel Bae Trearddur mae enwau Saesneg fel Craigneish Bungalow, Heather Cliff a Keeling i'w gweld.

Er bod nifer eraill yn dal ag enwau Cymraeg, mae angen gwneud mwy ynghylch y sefyllfa, yn ôl Mr Williams.

"Mae angen deddfu," meddai. "Dwi ddim yn meddwl byddai'r un wlad arall yn derbyn yr un fath o driniaeth â ni".

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolGweld mwy ar Twitter

Does dim deddf ar hyn o bryd yn gorfodi trigolion i gadw enwau ar dai ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "rhestr statudol o enwau lleoedd hanesyddol Cymru, sydd eisoes yn cynnwys bron i 700,000 o gofnodion, yn codi ymwybyddiaeth am gyfoeth ein hetifeddiaeth".