'Ystyried dirwyo' am oedi trosglwyddo cleifion o ambiwlans

Ambiwlans yn ciwio ym Mronglais
Image caption Cafodd sawl ambiwlans eu gweld yn ciwio y tu allan i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yr wythnos ddiwethaf

Mae'r Gweinidog Iechyd yn dweud fod dirwyo ysbytai ymhlith opsiynau mae'n eu hystyried mewn ymgais i fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys i adrannau brys ysbytai.

Dywed Vaughan Gething ei fod yn "poeni fwyfwy" am y dirywiad yn yr amseroedd trosglwyddo.

Cafodd 79,150 o oriau eu gwastraffu llynedd wrth i griwiau ambiwlans aros y tu allan i adrannau brys.

Mae Mr Gething yn sefydlu tasglu ar ôl adolygiad diweddar o amseroedd ymateb i alwadau ambr.

Daeth yr adolygiad i'r casgliad mai un o'r prif resymau am y dirywiad mewn amseroedd ymateb oedd bod gormod o ambiwlansys yn aros yn rhy hir i drosglwyddo cleifion i adrannau brys.

Mae'r mwyafrif o alwadau 999 yn cael eu rhoi yn y categori ambr - nid yw'r rhain yn nodi bod bywyd mewn perygl, ond mae dal angen ymateb neu asesu'n gyflym.

Ond mae ambiwlansys wedi bod yn cymryd yn hirach i gyrraedd cleifion wedi'r galwadau hyn.

Image caption Dywedodd Vaughan Gething ddydd Mercher ei fod yn cadw meddwl agored ynghylch mynd i'r afael â'r sefyllfa

"Fel cam brys, rydw i wedi penderfynu cyflwyno system i annog byrddau iechyd i gyflawni'r gwelliannau sydd angen," meddai Mr Gething mewn datganiad i ACau.

"Byddaf yn penderfynu dros yr wythnosau nesaf i sicrhau bod y system newydd yn barod i gael effaith ar berfformiad y gaeaf hwn."

Mewn cyfweliad i BBC Cymru, ychwanegodd Mr Gething: "Mae'n bosib taw dirwyo yw un o'r opsiynau o ran ceisio annog [byrddau iechyd], ond hefyd i dynnu cyllid i'w rhoi mewn cronfa wahanol

"Dydw i yn sicr ddim yn diystyru unrhyw beth. Mae gen i feddwl agored ac mae wir yn bosibilrwydd."

Sut mae'r gwasanaeth ambiwlans yn perfformio?

Y targed yw na ddylai'r un ambiwlans aros y tu allan i ysbytai am fwy na 15 munud. Mae unrhyw beth y tu hwnt i hynny'n cael ei ystyried fel oedi yn y trosglwyddo.

Fe wnaeth yr holl oedi gyfateb i bron i 79,150 awr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Byddai hynny'n gyfwerth ag un ambiwlans yn treulio naw mlynedd yn aros y tu allan i ysbyty.

Nifer y cleifion gafodd eu heffeithio ym mis Tachwedd 2019 oedd 513 - y nifer uchaf ers Mawrth 2016.

Yn ogystal mae nifer y galwadau brys i Wasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cynyddu, gyda'r gwasanaeth yn derbyn tua 40,000 o alwadau'r mis.

Fis diwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "siomedig" bod y targed ar gyfer galwadau coch - y rhai mwyaf difrifol - wedi ei fethu am y tro cyntaf.

Ond dywedodd fod yr ymateb ar gyfartaledd ar gyfer y categori yma wedi parhau'n chwe munud a 39 eiliad, a'u bod wedi ymateb i 73% o alwadau o fewn 10 munud.

Image caption Mae hi wedi bod yn aeaf "prysur iawn" i'r gwasanaethau brys hyd yn hyn

Mae tua 70% o alwadau brys yn rhai ambr. Dyma'r galwadau sy'n nodi gallai cleifion fod angen eu trin yn y fan a'r lle neu eu cludo i'r ysbyty'n gyflym.

Mae'r rhain yn gallu cynnwys pobl sydd â phoenau yn y frest neu strôc.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, llwyddodd y gwasanaeth i ymateb i 43.3% o gleifion o fewn hanner awr.

Ond mae'r amser ymateb ar gyfer galwadau ambr wedi bod yn cynyddu'n gyson ac mae bellach dros hanner awr.

Mae'r gweinidog iechyd yn credu mai rhyddhau ambiwlansys yw'r prif ffactor i sicrhau prydlondeb ymateb.

'System yn gwaethygu'

Mae Gill Pleming yn reolwr yng nghanolfan alwadau'r Gwasanaeth Ambiwlans yn Llanfairfechan, Conwy, ac mae hi wedi gweithio fel parafeddyg ac yn cymryd galwadau ers 35 mlynedd.

Dywedodd ei bod wedi gweld cynnydd mawr yn y gwaith a newid yn y math o waith sy'n cael ei gyflawni dros ei chyfnod yn y swydd, a bod y gaeaf hwn wedi bod yn anodd.

"Mae wedi bod yn andros o brysur i fyny at Dolig ac ar ôl Dolig - i fyny at hyn mae wedi bod yn reit galed i'r cleifion ac i'r staff hefyd yn ymateb i'r galwadau yn y ganolfan ac allan ar y lôn," meddai.

"Mae nifer y galwadau'n reit uchel.

"Bydd y galwadau'n dod i mewn, mae pobl yn ffonio 'nôl i ofyn lle ydych chi.

"Mae'r rhai sy'n gyrru'r ambiwlansys yn brysur - mae ganddyn nhw weithiau gleifion yn aros am dipyn o amser oherwydd does gennym ni ddim byd i yrru.

"'Da ni'n gorfod eu ffonio nhw 'nôl i wneud yn siŵr eu bod nhw ddim wedi gwaethygu - mae'r system yn mynd yn waeth."

Image caption Yn ôl Wayne Davies mae yna "gynydd sylweddol" wedi bod yn y galw am y gwasanaeth ambiwlans

'Torcalonnus'

Mae Wayne Davies wedi bod yn barafeddyg yn y gogledd ddwyrain ers 2004. Mae hefyd yn penderfynu pa ambiwlansys sy'n cael eu rhyddhau o ysbytai.

Mae ei gerbyd ymateb cyflym yn delio â galwadau categori coch ac ambr, ac mae'n gallu asesu cleifion a phenderfynu a oes angen cymorth yn y fan a'r lle neu driniaeth ysbyty.

Dywedodd bod y sefyllfa'n "dorcalonnus" i rai o'r staff sy'n gwneud y swydd o ddydd i ddydd.

"Mae pawb wedi ymuno â'r gwasanaeth i fod yn flaenllaw a rhoi triniaeth i gleifion - mae'r rhwystrau tuag at yr ysbyty yn reit challenging," meddai.

"Pan mae gennym ni ambiwlans yn disgwyl y tu allan i'r uned frys, mae hynny'n rhwystro ni rhag ymateb yn y gymuned ac mae hynny'n gallu bod yn reit rhwystredig."

Image copyright GIG

Mae Mr Gething wedi dweud wrth ACau bod disgwyl i dri o fyrddau iechyd Cymru gofnodi diffygion ariannol eleni.

Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Iechyd ddydd Mercher, dywedodd y Gweinidog Iechyd ei fod ar ddeall bod byrddau Betsi Cadwaladr, Hywel Dda a Bae Abertawe'n "annhebygol o fantoli eu cyfrifon" ar gyfer 2019-20, "ond rydym yn meddwl y bydd y gweddill".

"Fel y llynedd, rydym yn anelu i neilltuo darpariaeth o fewn y gyllideb gyfan i sicrhau bod yr holl filiau'n cael eu talu."

Ychwanegodd bod yna "gynnydd a gwelliant o ddifrif o ran disgyblaeth a pherfformiad ariannol" ers dechrau tymor y Cynulliad presennol, ond bod sefyllfa ariannol y byrddau iechyd heb gyrraedd "ble bydden ni'n dymuno iddo fod".

Straeon perthnasol