Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar yn Abertawe

Tafgeydd Ffordd Fabian Image copyright Traffig Cymru
Image caption Roedd yr heddlu wedi apelio ar yrwyr i osgoi'r tagfeydd, oedd yn ymestyn o Ffordd Fabian i'r M4

Mae dyn yn ei 40au wedi marw ar ôl iddo gael ei daro gan gar yn Abertawe fore Iau.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y dyn, oedd yn cerdded, wedi cael ei daro gan Mini Countryman gwyn ar Ffordd Fabian am tua 07:30.

Bu'r ffordd brysur ynghau am tua phum awr wrth i'r llu ymchwilio i'r digwyddiad.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un welodd y dyn yn cerdded ar hyd y ffordd, neu unrhyw un welodd y modd roedd y Mini yn cael ei yrru cyn y digwyddiad.

Ychwanegodd y llu ei fod yn gwerthfawrogi amynedd gyrwyr tra bo'r ffordd ynghau.

Pynciau Cysylltiedig