Cyhuddo dyn o lofruddiaeth yn Aberaman

Luke Williams Image copyright Llun teulu
Image caption Dywedodd teulu Luke Williams eu bod wedi eu "llorio" gan ei farwolaeth

Mae dyn 52 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn arall yn Aberaman, Rhondda Cynon Taf ar 16 Rhagfyr.

Bu farw Luke Williams, oedd yn 26 oed, o'i anafiadau yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful dridiau'n ddiweddarach.

Roedd Andrew John Davies, eisoes wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol, ond mae bellach wedi ei gyhuddo o lofruddio Mr Williams.

Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau.

Pynciau Cysylltiedig