Jamie Roberts yn gadael Caerfaddon am Dde Affrica

Jamie Roberts Image copyright Getty Images
Image caption Dydy Jamie Roberts heb ennill cap dros Gymru ers Tachwedd 2017

Mae canolwr Cymru, Jamie Roberts wedi gadael Caerfaddon i ymuno â chlwb Stormers yn Ne Affrica.

Roedd Roberts yn ei ail dymor gyda Chaerfaddon ar ôl ymuno o Harlequins, ond bydd yn gadael yn syth i ymuno â'r clwb yn Cape Town, sy'n chwarae yng nghynghrair Super Rugby.

Mae Roberts, 33, wedi ennill 94 cap dros Gymru, ond daeth y diweddaraf o'r rheiny ym mis Tachwedd 2017.

Er anafiadau i nifer o ganolwyr arferol Cymru, ni chafodd Roberts ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Bydd tymor Stormers yn dechrau yn erbyn Hurricanes ar 1 Chwefror - gyda Chymru'n dechrau eu hymgyrch Chwe Gwlad yn erbyn Yr Eidal ar yr un diwrnod.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol