Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-1 Wigan

  • Cyhoeddwyd
connor gallagher a rhian brewsterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Rhian Brewster, sydd ar fenthyg o Lerpwl, yn dathlu ei gôl gyntaf dros Abertawe

Roedd yn rhaid i Abertawe frwydro nôl i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Wigan ddydd Sadwrn er mwyn aros yn chwech uchaf y Bencampwriaeth.

Er iddyn nhw ddechrau'n addawol roedd yr Elyrch ar ei hôl hi wedi 15 munud wrth i Nathan Byrne rwydo o groesiad Kieran Dowell.

Ond o fewn munudau roedd hi'n gyfartal gyda dau chwaraewr sydd ar fenthyg yn Abertawe, Connor Gallagher a Rhian Brewster, yn cyfuno cyn i Brewster sgorio ei gôl gyntaf dros y clwb.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd pellach cyn yr egwyl, gyda Gallagher yn taro ergyd dros y trawst cyn i Joe Garner fynd yn agos gyda pheniad i'r ymwelwyr.

Daeth y gôl fuddugol ar ôl 67 munud wrth i Bersant Celina ganfod Andre Ayew yn y cwrt cosbi, a'r ymosodwr yn canfod cefn y rhwyd gydag ergyd glyfar oddi ar ei sawdl.