£1m o gocên: Dau o Gasnewydd wedi eu harestio
- Cyhoeddwyd

Cafodd y cyffuriau eu darganfod yn Llundain
Mae tri o bobl wedi eu harestio ar ôl i werth £1m o'r cyffur cocên gael ei ddarganfod yn Llundain.
Cafodd dynes 26 oed a dyn 28 oed eu harestio yng Nghasnewydd ar 22 Ionawr. Cafodd dyn arall 30 oed ei arestio yn Bedminster ym Mryste y diwrnod canlynol.
Mae'r tri yn cael eu hamau gan yr Asiantaeth Droseddau (NCA) o fewnforio cyffuriau anghyfreithlon.
Cafodd y cyflenwad ei ddarganfod gan swyddogion o Lu Ffiniau'r DU mewn canolfan ddosbarthu parseli yn Llundain.
Roedd dau becyn yn pwyso tua 6 cilogram yr un wedi eu hanfon o'r Iseldiroedd.
Mae'r ddau gafodd eu harestio yng Nghasnewydd wedi eu rhyddhau dan ymchwiliad. Cafodd y dyn o Fryste ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau yn parhau.