Caerdydd yn gobeithio herio Sheffield Utd yng Nghwpan yr FA

  • Cyhoeddwyd
fa cupFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r enwau wedi dod o'r het ar gyfer pumed rownd cwpan FA Lloegr.

Gydag 16 o dimau yn y rownd honno, fe fydd Clwb Pêl-droed Caerdydd yn chwarae gartref os fyddan nhw'n curo Reading yn y gêm ailchwarae.

Sheffield United o Uwch Gynghrair Lloegr fydd yr ymwelwyr.

Bydd y gêm ailchwarae yn erbyn Reading yn digwydd ar nos Fawrth, 4 Chwefror yn Stadiwm Dinas Caerdydd.