Rhydychen yn llenwi'r Gadair Geltaidd ar ôl bron degawd

  • Cyhoeddwyd
Dr David WillisFfynhonnell y llun, George Walkden
Disgrifiad o’r llun,
Mae Dr David Willis yn gweithio ym Mhrifysgol Caergrawnt ar hyn o bryd

Mae Prifysgol Rhydychen wedi cyhoeddi eu bod wedi llenwi'r Gadair Geltaidd yng Ngholeg yr Iesu - wedi i'r rôl fod yn wag ers bron i ddegawd.

Dr David Willis ydy'r person cyntaf i gael ei benodi i'r swydd ers ymddeoliad yr Athro Thomas Charles-Edwards ym mis Medi 2011.

Mae Cymry wedi gwneud gwaith ymchwil ôl-raddedig ar y Gymraeg a'i llenyddiaeth o dan yr Athro Celteg - neu'r Gadair Geltaidd - yn y brifysgol ers bron i ganrif a hanner.

Daeth yr ariannu gan y brifysgol i ben yn 2011 ond mae'r Coleg wedi llwyddo i godi mwy na £3.35m yn y blynyddoedd diwethaf i adfer y rôl.

Dywedodd Coleg yr Iesu eu bod yn "falch o ddiogelu datblygiad ysgolheictod Celtaidd am genedlaethau i ddod".

Fe gadarnhaodd y brifysgol hefyd eu bod wedi derbyn £1m gan roddwr o Gymru i ddiogelu dyfodol cynllun ysgol haf i ddenu mwy o fyfyrwyr o Gymru.

Mae penodiad Dr Willis - fydd yn dechrau ar ei waith ym mis Gorffennaf - yn golygu y bydd cwrs ôl-radd Astudiaethau Celtaidd (MSt, DPhil) yn dychwelyd maes o law.

Dywedodd y byddai'n dymuno gweld rhagor o fyfyrwyr ôl-radd yn gwneud gwaith ymchwil a'i fod eisiau "datblygu prosiectau ymchwil ar y cyd" gyda Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth.

"Mae'r holl bwnc yn un eang ac yn help i ni ddeall ein diwylliannau a'n gwledydd ein hunain," meddai.

Un o brif ddiddordebau Dr Willis ydy edrych ar sut mae'r iaith Gymraeg a thafodieithoedd yn esblygu, gan ddefnyddio adnoddau technolegol fel Twitter.

Disgrifiad,

'Fi oedd am fod y myfyriwr Astudiaethau Celtaidd olaf'

Dywedodd yr Athro Louise Richardson, is-ganghellor Prifysgol Rhydychen, ei bod yn "hyderus y bydd [Dr Willis] yn parhau â thraddodiad rhagorol o ysgolheictod mewn pwnc hanesyddol arwyddocaol".

Ychwanegodd yr Athro Ieithyddiaeth yn Rhydychen, Aditi Lahiri: "Rydym nid yn unig yn ennill ysgolhaig Celtaidd byd-enwog ond hefyd yn ieithydd o'r radd flaenaf."

Yn 2018, daeth £500,000 gan Brifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant - un o'r cyfraniadau mwyaf yn yr ymgyrch i achub y Gadair.

Dywedodd yr Athro Syr Nigel Shadbolt, Pennaeth Coleg yr Iesu: "Mae brwdfrydedd a haelioni rhoddwyr i adfer y Gadair yn dangos bod ysgolheictod Celtaidd yn parhau i fod yn ganolog i'n hunaniaeth ddiwylliannol a'n bywyd deallusol."

Rhodd £1m i'r ysgol haf Cymreig

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cynllun Rhwydwaith Seren gan Lywodraeth Cymru wedi ceisio cael prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt i gynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru.

Fel rhan o'r cynllun, mae Rhydychen bellach yn cynnal ysgolion haf - cyfle i fyfyrwyr o Gymru fynd yno i weld y cyfleusterau a'r ffordd o fyw.

Cyhoeddodd Rhydychen eu bod wedi derbyn £1m - y rhodd ariannol mwyaf - tuag at y cynllun gan y Cymro, Oliver Thomas.

Bydd arian y cyn-fyfyriwr yn mynd tuag at gynllun yr ysgol haf, sydd wedi denu bron i 200 o ddisgyblion o Gymru yn y tair blynedd ddiwethaf.

Y Cymro John Rhŷs oedd Athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen yn 1877.

Ymhlith y Cymry Cymraeg sydd wedi astudio yno o dan gyfarwyddyd yr Athro Celteg y mae T H Parry Williams, Bedwyr Lewis Jones, R Geraint Gruffydd, Derec Llwyd Morgan, Kathryn Jenkins, Huw Meirion Edwards ac Angharad Price.