Recriwtio diffoddwyr tân ar alw yn 'fwyfwy anodd'

  • Cyhoeddwyd
Tân

Mae recriwtio diffoddwyr tân ar alw yn mynd yn "fwyfwy anodd", yn ôl rheolwr diogelwch cymunedol.

Mae angen i staff ar alw - sy'n staffio dros 70% o orsafoedd tân Cymru - allu gadael eu swyddi eraill unrhyw funud, ac maen nhw fel arfer ar alw am 120 awr yr wythnos.

Ond dywedodd Kevin Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod llai o bobl yn gweithio mewn cymunedau bychan bellach.

"Mae'n her ond yn un mae'n rhaid i ni ei datrys," meddai.

Fe wnaeth Mr Jones weithio fel diffoddwr ar alw am bum mlynedd ar ddechrau ei yrfa cyn troi'n aelod llawn amser o'r llu.

Mae'n rhaid i ddiffoddwyr ar alw fyw neu weithio o fewn ychydig funudau at orsaf dân.

Ond mae'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n symud i drefi a dinasoedd mwy i weithio yn lleihau nifer y bobl sydd ar gael mewn cymunedau gwledig.

'Rhaid bod yn fwy clyfar'

"Heb os mae wedi mynd yn fwyfwy anodd dros y 10 i 15 mlynedd ddiwethaf," meddai Mr Jones.

"Mae llai o bobl yn gweithio mewn cymunedau bychan, sy'n her ledled y DU.

"Mae'n rhaid i ni fod yn fwy clyfar am bwy rydyn ni'n ceisio recriwtio, ac os ydy pobl yn gallu cynnig ychydig oriau o waith yn unig mae'n rhaid i ni edrych ar hynny.

"Fe fyddwn ni'n edrych ar bob achos yn unigol - mae'n her ond yn un mae'n rhaid i ni ei datrys."

Mae'r mwyafrif o orsafoedd tân y gogledd - 35 allan o 45 - yn cael ei staffio gan ddiffoddwyr ar alw, ond mae Mr Jones yn dweud nad oes perygl o unrhyw un yn cau er yr heriau recriwtio.

Pwy sy'n gwneud y gwaith?

Disgrifiad o’r llun,
Mae Cara Nisbet wedi bod yn ddiffoddwr ar alw ers 18 mis

Mae Cara Nisbet, 34, yn gweithio i Gyngor Ceredigion, sy'n rhoi caniatâd iddi adael ei gwaith unrhyw bryd mae hi'n cael ei galw gan Wasanaeth Tân ach Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Dywedodd ei bod dros ei phwysau ac yn ysmygu ac yfed yn ormodol cyn iddi benderfynu cymryd rheolaeth o'i bywyd trwy fod yn ddiffoddwr tân.

"Mae'n ysbrydoledig bod yn rhan o rywbeth fel hyn," meddai.

"I unrhyw un sy'n ei ystyried byddwn i'n dweud rhowch gynnig arni - doeddwn i byth yn meddwl y bydden i'n gallu gwneud rhywbeth fel hyn."

Mae diffoddwyr yn cael eu talu am fod ar alw ac yn cael mwy o dâl os ydyn nhw'n cael eu galw i ddelio â digwyddiad.

Beth yw'r sefyllfa ledled Cymru?

Yn ne Cymru mae tua thraean o'r gweithlu yn ddiffoddwyr ar alw, gyda 27 allan o'r 47 gorsaf yn cael eu staffio gan ddiffoddwyr ar alw yn unig a naw arall yn defnyddio cymysgedd o staff parhaol a rhai ar alw.

Dywedodd y llu eu bod wastad yn recriwtio diffoddwyr ar alw.

Yng nghanolbarth a gorllewin Cymru mae 47 o'r 58 gorsaf yn cael eu staffio gan ddiffoddwyr ar alw, sydd angen byw o fewn 10 munud i'r orsaf.

Mae'r llu yn recriwtio diffoddwyr ar alw i bob un oni bai am 11 o'r gorsafoedd hynny.