Taith o gwmpas cysylltiadau Cymreig Dulyn

Cyhoeddwyd

Beth sydd gan Guinness, Alun Wyn Jones a Sant Padrig yn gyffredin? Maen nhw i gyd yn dod o Gymru... wel, efallai.

Wrth i'r Cymry heidio yn eu miloedd i Ddulyn ar gyfer y gêm Chwe Gwlad ddydd Sadwrn, dyma daith Cymru Fyw o leoliadau yn y brifddinas sydd â chysylltiadau Cymreig. Mae rhai i'w dathlu, eraill i'w anghofio - ac ambell un yn ddadleuol.

'A Fo Ben Bid Bont'

Ffynhonnell y llun, Valériane Leblonde

Lle gwell i ddechrau ein taith na lleoliad un o olygfeydd enwocaf ein llenyddiaeth - 'pont' Bendigeidfran yn Y Mabinogi.

Yn ôl y chwedl, yn fuan ar ôl cyrraedd Iwerddon i achub ei chwaer Branwen mae'r cawr yn cyrraedd rhwystr - yr Afon Llinon.

Un broblem: mae'r Gwyddelod newydd ddinistrio'r bont wrth ddianc rhag y Cymry. 'A Fo Ben Bid Bont' meddai Bendigeidfran yn y stori, cyn gorwedd o un lan i'r llall er mwyn i'w fyddin fedru croesi drosto a mynd ar ôl Matholwch, Brenin yr Iwerddon (a hen sinach blin).

Ond ble mae'r Afon Llinon? Yn ôl rhai ysgolheigion, y Liffey ydi hi - sy'n llifo trwy Ddulyn.

Ac os ydi Andrew Breeze yn gywir yn Rural Space in the Middle Ages and Early Modern Ages, Pont y Tad Mathew ydi'r union leoliad.

Ffynhonnell y llun, Barcex
Disgrifiad o’r llun,
Pont y Tad Mathew sydd yma heddiw - ond roedd pont arall yn croesi'r Liffey yn y lleoliad yma 1000 o flynyddoedd yn ôl

Mae pont wedi bod ar y safle yma ers y cyfnod pan ysgrifennwyd y chwedlau.

Cyn hynny roedd clwydi wedi eu gosod ar hyd rhyd yn yr afon i helpu pobl groesi. Yn ôl Andrew Breeze dyna pam bod y gainc yn sôn am roi 'clwydi' ar gefn Bendigeidfran cyn i'r milwyr gerdded drosto.

Felly os ydych chi'n mynd i'r gêm, ewch draw i Stryd y Bont, dyfynnwch Bendigeidfran - a chroeswch yr afon.

Cymru a Gwrthryfel 1916

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd Swyddfa'r Post - pencadlys y Gweriniaethwyr - ei chwalu yn ystod y gwrthryfel

Gwrthryfel y Pasg ydi un o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol hanes Iwerddon - ac mae 'na gysylltiad efo pentref yng Nghymru.

Ar Ebrill 24, 1916 cyhoeddodd grŵp o weriniaethwyr bod Iwerddon yn torri'n rhydd o Brydain.

Ar ôl chwe diwrnod o frwydro ffyrnig ar strydoedd Dulyn fe drechwyd y gwrthryfel yn llwyr.

Dienyddwyd rhai o'r arweinwyr a chafodd eraill eu carcharu ym Mhrydain, 2000 ohonyn nhw yng Ngwersyll Frongoch, ger y Bala.

Disgrifiad o’r llun,
Rhai o garcharorion gwersyll Frongoch

'Prifysgol y Chwyldro' oedd enw'r gweriniaethwyr am y gwersyll gan fod cymaint o drafod ymysg y carcharorion am sut i fynd ati i wireddu'r freuddwyd o Iwerddon rydd.

Pan gafodd Gweriniaeth Iwerddon ei sefydlu yn 1922 cafodd 30 o'r dynion carcharwyd yn Frongoch eu hethol fel aelodau Sinn Féin yn y senedd yn Nulyn.

Ffynhonnell y llun, Dr. Osama S M Amin
Disgrifiad o’r llun,
Gallwch weld cerflun o Michael Collins, un o'r arweinwyr garcharwyd yn Frongoch, ym mharc Sgwâr Merrion

I ddysgu mwy am y gwrthryfel ewch draw i weld yr arddangosfa yn Swyddfa'r Post, ar O'Connell Street, sef pencadlys y gwrthryfelwyr yn 1916.

A oes heddwch? Yr Orsedd a'r Gwrthryfelwr

Padraig Pearse oedd un o arweinwyr y gwrthryfel - a'r un ddarllenodd y datganiad yn cyhoeddi sefydlu'r Weriniaeth.

Yn hytrach na'i gludo i'r gwersyll yng Nghymru cafodd ei ddienyddio pedwar diwrnod ar ôl i'r gwrthryfel ddod i ben.

Ffynhonnell y llun, Peter Macdiarmid
Disgrifiad o’r llun,
Copi o ddatganiad y gweriniaethwyr wedi ei osod ar Swyddfa'r Post i nodi canmlwyddiant y gwrthyfel

Bron i 20 mlynedd cyn hynny, pan oedd yn 20 oed, fe gafodd ei urddo i'r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol 1899 yng Nghaerdydd.

Yn 1999 dadorchuddiwyd plac yng Nghaerdydd i nodi'r canmlwyddiant.

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,
Padraig Pearse - neu Yr Areithiwr, i roi ei enw barddol yn Yr Orsedd

Fe sefydlodd Pearse, bardd ac athro oedd yn frwd am yr iaith Wyddeleg, ysgol ddwyieithog Sant Enda yn Rathfarnham, yn ne'r brifddinas. Erbyn heddiw mae'n amgueddfa sy'n olrhain hanes ei fywyd.

Mae mwy o hanes Pearse i'w weld yn Kilmainham Goal, lle cafodd ei ddienyddio.

Hanes Guinness - ddim yn ddu a gwyn

Mae'r Gwyddelod yn falch iawn o'u Guinness. Felly dewiswch eich tafarn yn ofalus cyn gofyn: "A pint of your finest Welsh Guinness please!"

Yng nghanolfan ymwelwyr Stordy Guinness, fe gewch chi hanes swyddogol y cwmni: sut gafodd Arthur Guinness flas ar gwrw tywyll wrth ymweld â Llundain. Dechreuodd fewnforio'r cwrw o brifddinas Lloegr yn ôl i Iwerddon, ei ddatblygu'n gwrw tywyllach a dechrau bragu Guinness yn yr 1750au.

Fake news, yn ôl theori wnaeth y penawdau rai blynyddoedd yn ôl. Roedd rhai yng Nghymru yn dadlau y byddai peint o'r stwff du wedi bod yn llawer rhy ddrud yn y ddeunawfed ganrif ar ôl ei fewnforio'r holl ffordd o Lundain.

Rhatach o lawer fyddai prynu cwrw o rywle agosach i Ddulyn; rhywle lle'r oedd y goets fawr yn stopio dros nos rhwng Llundain a Chaergybi; rhywle fel... Llanfairfechan.

Roedd teithwyr y cyfnod yn aros mewn bwthyn yn y dref o'r enw Llety ac yn yfed mewn tafarn oedd yn gwneud cwrw tywyll iawn - tywyllach na'r hyn oedd ar gael yn Llundain. Enw'r dafarn oedd Gwin Du.

Meddai'r arbenigwr bwyd Deiniol Ap Dafydd: "Dwi'n meddwl bod Mr Guinness wedi blasu nifer fawr o gwrw lleol rhwng Llundain a Chaergybi, ond mai'r gwin du oedd o'n hoffi fwyaf. Dyma ddaeth yn Guinness."

Nawddsant y Gwyddelod?

Ffynhonnell y llun, Charles McQuillan

Os oes un person sy'n cael ei gysylltu efo Iwerddon hyd yn oed yn fwy nag Arthur Guinness, Sant Padrig ydi hwnnw. Wyddoch chi be'? Cymro oedd o... meddai rhai.

Cafodd ei eni yn Bannavem Taburniae - ac mae rhai'n dadlau mai Banwen yng Nghastell-nedd Port Talbot yw'r lle yma, lleoliad pwysig i'r Rhufeiniaid ar y pryd.

Mae trigolion y pentref yn cynnal gwasanaeth yno bob blwyddyn i'w goffáu.

Fe gafodd Padrig ei gipio gan fôr-ladron pan oedd yn ei arddegau, a bu'n gaethwas yn Iwerddon, cyn ffoi yn ôl adref a chael ei hyfforddi yn Llanilltud Fawr, yn ôl rhai. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad, mynd yn ôl i Iwerddon a dod â Christnogaeth i'r Gwyddelod.

Ond cyn mynd i ddadlau gormod ei fod o'n Gymro, mae rhai'n dweud mai yn Lloegr cafodd ei eni, ac eraill yn dweud mai Albanwr oedd o.

Draw yn Amgueddfa Genedlaethol Dulyn, sy'n llawn ryfeddodau, mae daint Sant Padrig yn cael ei gadw.

Prifysgol gyntaf Dulyn

Ffynhonnell y llun, DEA / S. VANNINI
Disgrifiad o’r llun,
Eglwys St Padrig - lleoliad prifysgol gyntaf Dulyn

Mae Coleg Trinity yn denu'r twristiaid yn eu miloedd - ond nid dyma brifysgol gyntaf Dulyn.

Yn y Canol Oesoedd, pan oedd prifysgolion yn dechrau cael eu sefydlu ar hyd a lled Ewrop, fe agorwyd un yn Nulyn - a Chymro oedd un o'r pedwar athro oedd yn dysgu yno.

Roedd Edmwnd o Gaerfyrddin yn dysgu diwinyddiaeth ac yn frawd gyda'r urdd Ddominicaidd. Yn ôl yr hanesydd Dr Rhun Emlyn, o Brifysgol Aberystwyth, roedd darlithoedd prifysgol ganoloesol Dulyn yn cael eu cynnal yng Nghadeirlan Sant Padrig - ac roedd Cymro arall yno'r un pryd.

Meddai: "Roedd John de Bryan, brawd esgob Tŷ Ddewi, oedd yn dod o deulu Normanaidd o Sir Benfro yn ddeon yn y Gadeirlan yn yr 1350au."

Y Brenin Cymreig a'r Llychlynwyr

Ffynhonnell y llun, Robert Alexander
Disgrifiad o’r llun,
Mae teithiau tywys yn mynd ag ymwelwyr o gwmpas Dulyn i ddysgu am hanes y Llychlynwyr

Ar un cyfnod, roedd Dulyn yn cael ei reoli gan y Llychlynwyr - ac yn eu mysg roedd un fyddai'n dod yn un o arweinwyr Cymru.

Fe gafodd Gruffudd ap Cynan ei fagu yn Nulyn, yn fab i Ragnhilder - sef merch brenin Llychlynnaidd Dulyn.

Ei dad o oedd Cynan ap Iago, un o linach Brenin Gwynedd, gafodd ei ladd yn 1063.

Ffynhonnell y llun, VW Pics
Disgrifiad o’r llun,
Copi o gofgolofn gafodd ei godi gan y Llychlynwyr yn y 10fed neu'r 11eg ganrif. Gallwch weld hwn ar Stryd Pearse

Rai blynyddoedd wedyn, aeth Gruffudd yn ôl i Gymru ac ar ôl brwydr yn 1081 y fo oedd Brenin Gwynedd.

Gallwch wybod mwy am gyfnod y Llychlynwyr yn Nulyn yng nghanolfan Dublinia.

Gorau Cymro, Cymro oddi cartref?

Ffynhonnell y llun, Wolfgang Sauber/Creative Commons
Disgrifiad o’r llun,
Cerflun o Gerallt Gymro yng Nghadeirlan Tŷ Ddewi

Fe gafodd Gerallt Gymro ei ddewis yn un o 100 arwyr Cymreig mewn pôl piniwn yn 2002, ond fyddai o ddim yn ennill llawer o bleidleisiau yn Iwerddon.

Mae'n cael ei gofio yng Nghymru am sgwennu llyfrau am ei deithiau o gwmpas y wlad, sy'n rhoi darlun o fywyd yn y 12fed ganrif.

Aeth ar deithiau tebyg yn yr Iwerddon hefyd - a chreu darlun o bobl anwaraidd a chyntefig.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon
Disgrifiad o’r llun,
Map o Ewrop o'r Topographia Hibernica. Iwerddon yw'r wlad ar waelod y map, gyda'r Alban, Lloegr a Chymru uwchlaw. Gweddill Ewrop sydd uwchben Prydain, a Norwy yw'r wlad ar y chwith.

Gan ei fod yn gweithio i Frenin Lloegr, mae'n cael ei gyhuddo o ysgrifennu propaganda ac yn cael ei feio am greu darlun negyddol o'r Gwyddelod wnaeth barhau am ganrifoedd.

Mae un copi o'i lyfr Topographia Hiberniae yn cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon, yn y brifddinas - ond rhaid gwneud trefniadau o flaen llaw i'w weld.

Yr e-fengyl

Disgrifiad o’r llun,
Caffi'r rhyngrwyd ydi Capel Bethel erbyn hyn

Ewch draw i Talbot Street i weld yr unig gapel Cymraeg a fu yn Iwerddon - a gyrru e-bost a chael paned yr un pryd.

Fe gafodd Capel Bethel ei godi'n wreiddiol yn 1838 i wasanaethu'r cannoedd o forwyr Cymreig oedd yn ymweld â phorthladd Dulyn - ac roedd naws morwrol i'r capel am amser hir.

Y "main-deck" oedd yr enw am lawr y capel. Roedd y dynion yn eistedd ar y "starboard" (yr ochr dde) a'r merched ar y "port side" (yr ochr chwith). Roedd "spitoons" wrth ymyl rhai o seddau'r dynion ac roedd smocio yn cael ei ganiatáu ar y dechrau.

Mewn cyfnodau pan oedd drwg deimlad yn erbyn y Protestaniaid doedd mynd i'r capel ddim bob tro'n hawdd. Pan fethodd Mesurau Ymreolaeth ar ddiwedd yr 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif fe gafodd cerrig eu taflu at y capel gan falu ffenestri.

Yn ystod Gwrthryfel y Pasg 1916, yn ôl y sôn, cafodd John Lewis y gweinidog fwled drwy gantel ei het.

Caewyd y capel yn 1944 ac erbyn hyn gallwch syrffio'r we am fwy o hanes y capel gan mai caffi'r rhyngrwyd ydi hi erbyn hyn.

Hefyd o ddiddordeb: