Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-0 Queens Park Rangers

  • Cyhoeddwyd
Tacl ar Rhian BrewsterFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Doedd dim goliau gan Rhian Brewster nos Fawrth, er iddo sgorio ddwywaith ers ymuno â'r Elyrch ar fenthyg o Lerpwl

Roedd gêm ddi-sgôr siomedig yn erbyn Queens Park Rangers yn Stadiwm Liberty nos Fawrth yn ergyd i obeithion Abertawe o gyrraedd safleoedd gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth.

Prin oedd y cyfleoedd i dîm Steve Cooper wrth i'r ymwelwyr gael y gorau o'r chwarae.

Roedd yna un rhediad addawol gan Andre Ayew yn yr hanner cyntaf oedd yn ddigon i boeni'r gwrthwynebwyr am eiliad cyn i'w ergyd daro Connor Roberts a gwyro'r bêl o gyfeiriad y gôl.

Roedd angen cryn waith amddiffynnol gan Roberts a'i gyd-chwaraewr rhyngwladol, Joe Rodon, gyda rheolwr Cymru, Ryan Giggs ymhlith y gwylwyr.

Llwyddodd Rhian Brewster i roi golwr Rangers dan bwysau tua diwedd yr ail hanner, ond roedd Abertawe'n ffodus o gael pwynt ar ôl methu â chael un ymgais uniongyrchol i sgorio.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn nawfed safle'r tabl gyda 47 o bwyntiau.