O Aberfan i Ddatganoli: Gyrfa wleidyddol Elystan Morgan

Elystan Morgan

Wedi gyrfa mewn gwleidyddiaeth sydd wedi para dros hanner canrif, mae cyn aelod seneddol Ceredigion, yr Arglwydd Elystan Morgan, wedi ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi.

O drychineb Aberfan a'r Arwisgo i Dryweryn a Datganoli mae'r gwleidydd a'r bargyfreithiwr o Geredigion wedi bod yn dyst i ddigwyddiadau hanesyddol a gwleidyddol mwyaf y genedl yn y cyfnod diweddar.

Mae'n eistedd yn yr ail dŷ ers 1981 a chyn hynny roedd yn aelod seneddol ar Geredigion rhwng 1966 a 1974. Roedd ei ddiwrnod olaf fel un o'r Arglwyddi ar 12 Chwefror 2020.

Dyma gipolwg ar rai o'r digwyddiadau cenedlaethol mae wedi bod yn eu canol.

Dyddiau cynnar Plaid Cymru

Image caption Elystan Morgan yn cyfrannu i raglen BBC Cymru yn 1965

Fel aelod o'r Blaid Lafur mae'r Arglwydd Morgan yn cael ei adnabod ond dechreuodd ei yrfa gyda Plaid Cymru pan roedd Gwynfor Evans yn llywydd.

Safodd dros Blaid Cymru mewn etholiad bedair gwaith rhwng 1955 a 1964 ond wedi ei siomi gan fethiant y blaid i ennill tir ar y pryd, ymunodd â'r Blaid Lafur a dod yn aelod yng Ngheredigion yn 1966.

Mae wedi dweud ei fod wedi ymuno â Phlaid Cymru am ei fod yn credu y gallai ennill "y fath gefnogaeth fwyafrifol yng Nghymru gan orfodi llywodraeth y dydd ... i ganiatau senedd i'r genedl. Erbyn canol y chwedegau roedd yn ymddangos yn hollol amlwg na fyddai hynny'n digwydd o fewn ein dyddiau ni."

Credai mai o fewn Llafur yr oedd "y gwaith mwyaf i'w wneud."

Aberfan, 1966

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Rhannodd yr Arglwydd Elystan Morgan ei atgofion gyda BBC Cymru adeg 50 can mlwyddiant y drychineb yn 2006.

Roedd yr aelod seneddol newydd ymysg y rhai aeth i helpu i gloddio am oroeswyr yn nhrychineb Aberfan pan laddwyd 144 o bobl - y rhan fwyaf yn blant - wedi i dip glo syrthio ar ben ysgol a phentref Aberfan.

"Roedd na apêl i bobl fynd i Aberfan i helpu, ac mi wnes i ymateb i hynny, roedd gen i ddillad pysgota yn digwydd bod yn y bŵt - welingtons a hen ddillad," meddai.

"Rwy'n cofio bod na bobl o bob math yna, Saeson rhonc oedd â dim cysylltiad â'r lle. Glöwyr oedd yna yn fwy na dim. Llawer ohonyn nhw yn dadau i'r plant a fu farw ond roedden nhw yn gweithio a gweithio, fel pobl mewn trance. Roedden ni i gyd yn gweithio chwarter awr, yna off am ddeg munud. Jyst yn rhawio pethau ma's o'r ffordd. Cymerodd hi wythnosau iddyn nhw i glirio popeth."

Tryweryn

Image caption Protestwyr a thrigolion Capel Celyn yn gorymdeithio yn Lerpwl

Un o gyfnodau gwleidyddol mwyaf dadleuol a dylanwadol y ganrif ddiwethaf oedd boddi Cwm Tryweryn. Roedd Elystan Morgan ar y pryd yn dal yn aelod o Blaid Cymru, ond ddim yn aelod seneddol.

Fel cyfreithiwr, roedd yn amddiffyn dau oedd wedi ceisio rhwystro'r gwaith o foddi Cwm Tryweryn. Cafodd David Walters a David Pritchard ddirwy o £50 yr un.

Dywedodd Elystan Morgan ar raglen ddogfen am Dryweryn yn 2015 mai gwneud elw o werthu dŵr i ddiwydiannau ac awdurdodau eraill oedd wrth wraidd y cynllun, nid anghenion pobl gyffredin Lerpwl.

Arwisgo'r Tywysog Charles 1969

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Image caption Elystan Morgan yn yr Arwisgo, ar y chwith, ac AS Môn Cledwyn Hughes ar y dde

Roedd Elystan Morgan yn un o'r gwahoddedigion i seremoni arwisgo'r Tywysog Charles yn Dywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1969.

Dywedodd mewn rhaglen deledu gan y BBC ei fod wedi penderfynu mynd i'r arwisgiad er gwaethaf iddo gael negeseuon yn bygwth ei fywyd. Ond roedd yn nerfus am y digwyddiad.

"Y cyfan fyddech chi ei angen fyddai bom morter wedi ei anelu'n dda 500 llath o'r castell..." meddai mewn cyfweliad gyda'r BBC yn 2009.

"Roedd yr awyrgylch yn llawn tensiwn."

Datganoli 1979

Image caption Yr Arglwydd Elystan Morgan oedd cadeirydd yr Ymgyrch Ie yn 1979

Elystan Morgan oedd cadeirydd yr ymgyrch 'Ie' dros ddatganoli yn 1979 a disgrifiodd ganlyniad siomedig y refferendwm fel "gwawr greulon" ar ddydd Gŵyl Ddewi 1979.

"Dyna'r ergyd mwya i mi o bell ffordd mewn bywyd cyhoeddus," meddai yn ddiweddarach wedi i bobl Cymru bleidleisio yn erbyn Cynulliad o bedwar i un.

"Roeddwn i'n meddwl y bydden ni'n colli, ond doeddwn i 'rioed wedi credu y bydden ni'n colli gyda'r fath sarhad.

"Ond dyna fe roedden ni'n meddwl y bydde'r dydd yn dod - y bydden ni'n troi o ludw oer yr aflwyddiant - a mi ddaeth y dydd hwnnw mewn hir a hwyr."

Llafur yn colli Môn

Image copyright Press Association
Image caption Yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos

Yn etholiad cyffredinol 1979 roedd Cledwyn Hughes - yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos yn ddiweddarach - wedi dal sedd Ynys Môn i'r Blaid Lafur ers 1951. Elystan Morgan oedd ymgeisydd newydd Llafur yno ond fe gollodd y sedd yn annisgwyl i Keith Best o'r Ceidwadwyr ar ôl 28 mlynedd.

Yn ôl rhai mae'n bosib mai ei weithgarwch gyda'r ymgyrch 'ie' oedd yn gyfrifol.

Mae'r patrwm o'r aelod cyfredol hir-dymor yn colli Môn i blaid wahanol wedi parhau yn yr etholaeth hyd heddiw gyda'r Ceidwadwr Virgina Crosby yn ennill yn 2019 wedi i Albert Owen ei dal i Lafur am 18 mlynedd.

Blynyddoedd Thatcher

Image copyright Tom Stoddart Archive

Roedd Elystan Morgan wedi dod ar draws Margaret Thatcher gyntaf pan oedd yn aelod seneddol Llafur a hithau yn llefarydd yr wrthblaid ar addysg yn 1969.

Dywedodd mewn cyfweliad gyda BBC Cymru ei fod yn credu ei bod hi'n "fenwy o allu aruthrol", "o argyhoeddiad absoliwt" ac o "benderfyniad di-ildio a hynny yng ngwyneb pob anhawster".

Ond "roedd y penderfyniad i fynd i ryfel yn ynysoedd y Falklands yn fy marn i yn un o'r penderfyniadau mwyaf anghyfrifol allwch chi feddwl amdano," meddai.

"Mae'r effaith gafodd hi ar Gymru yn aruthrol," meddai yn ddiweddarach.

"Dwi'n credu ei bod hi wedi gwneud buddugoliaeth refferendwm 1997 yn bosib. Roedden ni wedi colli yn 1979 o bedwar i un. Roedden ni'n genedl fach wan, lwfr, ond erbyn 1997 ar ôl blynyddoedd o Thatcheriaeth roedden ni'n bobl â llawer mwy o ruddin inni a dwi'n credu mai hi wnaeth y fuddugoliaeth honno'n bosibl."

Mwy o bwerau i Gymru

Fel is-ysgrifennydd yn y Swyddfa Gartref yng nghyfnod Comisiwn Crowther, oedd yn cynghori ar gyfansoddiad y Deyrnas Gyfunol, teimlai Elystan Morgan ei fod wedi helpu i baratoi'r tir ar gyfer sefydlu cynulliad i Gymru yn nes ymlaen.

Ar ôl mynd yn ôl i Dŷr Arglwyddi fel croes-feinciwr yn 2005 rhoddodd gryn sylw i Fesur Llywodraeth Cymru 2006, a arweiniodd at refferendwm arall ar bwerau deddfu i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Wrth sôn am ei gyfraniad i'r ddadl am y mesur hwnnw dywedodd: "Pe tawn i ddim wedi gneud dim byd yn fy mywyd ond hynny mi fyddwn i'n gweud bod e'n cyfiawnhau'r hyn a nes i [gadael Plaid Cymru ac ymuno â Llafur] ... costied a gostio."

Image caption Cafodd Senedd Cymru fwy o bwerau deddfu dan Ddeddf Cymru

Hefyd o ddiddordeb: