Bardd y Mis - Llio Maddocks
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cerdd am bacio ar Bore Cothi

18 Chwefror 2020 Diweddarwyd 17:22 GMT

Pacio

Be ddigwyddodd i ni'n dau

nath bacio'n bywyd fyny

pan oedden ni'n iau

gan gario'n cartref ar ein cefn

fel cranc yn cario cragen?

Be ddigwyddodd i ni, hei?

I'r ddau fu'n cyfri cychod

wrth dorheulo ar y cei?

i'r ddau nath ffitio eu holl eiddo

mewn i sach?

Ro'n i'n gallu codi'n bywyd cyfan

efo jest un bys bach.

Be ddigwyddodd i ni, tybad,

i'r ddau fu'n gwawdio rheiny

oedd yn prynu dodrafn yn lle profiad?

Ti'n cofio fi'n deud

mod i isio dim ond tŷ bach

10 metr sgwâr?

Ti'n cofio ni'n addo

na fysa ni byth yn berchen

gwely sbâr?

A heddiw dwi'n cerdded draw

i'r swyddfa gwerthu tai

i nol y goriadau i'n tŷ

sydd efo dwy lloft sbâr, dim llai.

Dwi di pacio 'mywyd mewn i bedair fan.

Ro'n i'n meddwl fysa hyn yn rhwydd,

ro'n i'n meddwl erbyn hyn sa gen i plan,

y baswn i'n fwy na tŷ a swydd.

A ti'n gwenu arnai wrth osod y peiriant

golchi dillad newydd.

Be sy na i swpar? Ti di dadbacio'r sosbenni?

Ti'n cofio meddwl 'sa ni byth yn tyfu fyny?