Cymru i wynebu Seland Newydd a De Affrica yn yr hydref

Rieko Ioane Image copyright Stu Forster
Image caption Rieko Ioane yn dathlu cais yn y fuddugoliaeth o 18-33 y tro diwethaf i'r Crysau Duon ymweld â Chymru ym mis Tachwedd 2017

Bydd Cymru yn wynebu enillwyr Cwpan Rygbi'r Byd 2019, De Affrica a Seland Newydd yn ystod cyfres yr hydref eleni.

Bydd tîm Wayne Pivac hefyd yn croesawu Ffiji a'r Ariannin i Stadiwm Principality ym mis Tachwedd.

Mae'r gêm olaf yn erbyn y Springboks - ar 28 Tachwedd - yn disgyn tu allan i ffenestr ryngwladol corff World Rugby.

Mae hynny'n golygu na fydd chwaraewyr sy'n chwarae tu allan i Gymru ar gael i Pivac ar gyfer y gêm yn erbyn pencampwyr y byd.

Cyfres yr hydref Cymru 2020

Cymru v Ffiji, Sadwrn 7 Tachwedd, 13:00

Cymru v Seland Newydd, Sadwrn 14 Tachwedd, 17:30

Cymru v Ariannin, Sul 22 Tachwedd, 14:15

Cymru v De Affrica, Sadwrn 28 Tachwedd, 17:30