Enwi bachgen 21 mis oed fu farw mewn gwrthdrawiad

A55 Image copyright Richard Evans
Image caption Roedd yr A55 ar gau am tua saith awr wrth i'r heddlu ymchwilio

Mae babi 21 mis oed fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A55 wedi ei enwi fel Elis Wyn Owen o Ynys Môn.

Bu farw Elis yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori a char Ford Mondeo ger Gwalchmai brynhawn Sul.

Credir mai mam y bachgen, a oedd yn y sedd flaen, a gafodd ei hanafu yn y digwyddiad, ac mae hi'n parhau mewn cyflwr difrifol iawn mewn ysbyty yn Stoke.

Ni chafodd y dyn oedd yn gyrru ei anafu yn y digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol