Neb wedi hawlio tocyn loteri £1m yng Ngheredigion

Loteri Image copyright Getty Images

Mae trefnwyr y Loteri Genedlaethol wedi galw ar berchennog tocyn buddugol gwerth £1m i hawlio'r wobr.

Does neb wedi hawlio'r arian ar ôl i'r tocyn buddugol gael ei brynu yng Ngheredigion ar gyfer y loteri EuroMillions Millionaire Maker ar 7 Chwefror.

Os na fydd neb yn cyflwyno'r tocyn buddugol yna fe fydd yr arian yn cael ei ddosbarthu ar gyfer gwahanol brosiectau ar hyd y DU meddai'r trefnwyr.

Cod y tocyn buddugol ydi VPDP 74836. Mae gan yr enillydd tan 5 Awst eleni i hawlio'r wobr.

Os na fydd y wobr yn cael ei hawlio, bydd yr arian yn mynd i gronfa'r loteri sy'n mynd tuag at achosion da.