Pro14: Gweilch 13-21 Leinster

Dan Baker of Ospreys is tackled by Rhys Ruddock Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Tacl ar Dan Baker o'r Gweilch gan Rhys Ruddock

Colli oedd hanes y Gweilch yng nghystadleuaeth y Pro14 nos Wener er gwaethaf perfformiad dewr yn erbyn Leinster.

Roedd y Gweilch ar y blaen ar yr egwyl wedi hanner cyntaf cyffrous, ond roedd yr ail hanner yn fwy heriol yn erbyn y tîm sydd ymhell ar y blaen ar frig Grŵp A.

Leinster wnaeth sgorio cais a throsiad cyntaf y noson, ond fe darodd y tîm cartref yn ôl - trwy gic gosb Luke Price yn y lle cyntaf ac yna cais Luke Morgan ar ddiwedd yr hanner.

Wedi trosiad llwyddiannus Price roedd y Gweilch 10-7 ar y blaen wedi'r hanner cyntaf.

Ychwanegodd Price gic gosb arall yn yr ail hanner ond fe diriodd y pencampwyr ddwywaith i sicrhau'r fuddugoliaeth - a chau'r drws ar unrhyw obeithion o ddwy fuddugoliaeth o'r bron wedi rhediad hir yn y Pro14 heb ennill.

Mae'r Gweilch yn parhau ar waelod y tabl ar ôl ennill ond dwy gêm o 12 y tymor yma.

Pynciau Cysylltiedig