Y Bencampwriaeth: Stoke 2-0 Caerdydd

Published
image copyrightHuw Evans picture agency

Cafodd Caerdydd ergyd i'w gobeithion am ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair wedi iddyn nhw gael eu trechu oddi cartref yn Stoke ddydd Sadwrn.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 25 munud, gyda Callum Paterson yn troi'r bêl i'w rwyd ei hun o gic gornel.

Fe wnaeth Stoke selio'r fuddugoliaeth wedi 72 munud, wrth i'r Cymro Joe Allen rwydo wedi i ergyd Tyrese Campbell gael ei harbed.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn disgyn i'r 10fed safle yn y Bencampwriaeth, chwe phwynt o safleoedd y gemau ail gyfle.