Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-1 Huddersfield

Abertawe Image copyright Getty Images
Image caption André Ayew sgoriodd gôl gynta'r gêm yn Stadiwm Liberty

Llwyddodd Abertawe i roi hwb i'w gobeithion am ddyrchafiad gyda buddugoliaeth dros Huddersfield yn Stadiwm Liberty brynhawn Sadwrn.

Aeth yr Elyrch ar y blaen wedi 28 munud, wrth i André Ayew sgorio o groesiad Aldo Kalulu.

Gyda chwarter awr yn weddill fe ddaeth Huddersfield yn gyfartal, gyda Steve Mounié yn rhwydo i'r ymwelwyr.

Ond o fewn dau funud roedd Abertawe yn ôl ar y blaen wrth i Jay Fulton benio cic gornel Matt Grimes i gefn y rhwyd.

Fe lwyddodd Abertawe i selio'r fuddugoliaeth yn y munudau olaf wrth i Jordon Garrick rwydo ar ôl mynd â'r bêl o amgylch y golwr Jonas Lössl.

Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Elyrch yn codi i'r nawfed safle yn y Bencampwriaeth, bum pwynt o safleoedd y gemau ail gyfle.