Pro14: Glasgow 34-19 Dreigiau

Dreigiau Image copyright SNS

Llwyddodd Glasgow i drechu'r Dreigiau gyda phwynt bonws ar noson wyntog yn Scotstoun nos Sadwrn.

Aeth y Dreigiau ar y blaen o fewn munud trwy gais Rhodri Williams, cyn i'r Albanwyr daro 'nôl trwy Tim Swinson a Grant Stewart i roi mantais o 17-7 i Glasgow ar yr hanner.

Fe sgoriodd Williams ail gais yn yr ail hanner, a llwyddodd Ashton Hewitt i groesi i'r ymwelwyr hefyd, ond roedd tri chais arall i Glasgow, trwy Stewart, Huw Jones a Mesu Dolokoto.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Dreigiau yn y pumed safle yn Adran A y Pro14, 13 pwynt o'r gemau ail gyfle.

Pynciau Cysylltiedig