Cau ffyrdd wrth i bont gerdded gael ei symud yn Abertawe

Pont Image copyright Cyngor Abertawe
Image caption Bydd y bont gerdded dros Heol Ystumllwynarth yn cael ei dynnu oddi yno ddydd Sul

Bydd y gwaith o symud pont gerdded dros brif ffordd yn Abertawe yn dechrau ddydd Sul.

Bydd pont newydd yn cymryd lle'r un bresennol dros Heol Ystumllwynarth fel rhan o arena dan-do newydd sy'n cael ei ddatblygu gan y cyngor.

Mae'r datblygiad ehangach, gwerth £135m, yn cynnwys cartrefi newydd, siopau a llefydd parcio.

Dywedodd Cyngor Abertawe bod y gwaith wedi cael ei drefnu ar adeg fyddai'n achosi'r lleiaf o drafferth i deithwyr.

Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio rhwng 14:00 ddydd Sul a 06:00 fore Llun tra bod craeniau yn symud y bont.

Image copyright Cyngor Abertawe
Image caption Dyluniad o sut y bydd y bont newydd yn edrych

Pynciau Cysylltiedig