Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar yn Llanelli

Heol yr Eglwys
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol yr Eglwys, ger Llys Ynadon Llanelli

Mae dyn 53 oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar yn Llanelli nos Sadwrn.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng Suzuki Swift gwyn a cherddwr ar Heol yr Eglwys am tua 20:15.

Dywedodd y llu bod y dyn wedi dioddef anafiadau nad oedd modd eu goroesi yn y digwyddiad.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â fideo dashcam o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau Cysylltiedig