Arestio dyn yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

Heol Casnewydd Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Casnewydd fore Sadwrn

Mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri char yng Nghaerdydd.

Cafodd dyn 70 oed ei gludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar Heol Casnewydd fore Sadwrn, a bu'r ffordd ar gau am rai oriau.

Dywedodd Heddlu De Cymru nad yw anafiadau'r dyn yn rhai sy'n peryglu ei fywyd, a bod y dyn 35 oed wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw dystion i'r digwyddiad i gysylltu â nhw.

Y tri cherbyd oedd yn y gwrthdrawiad oedd Renault Megane llwyd, Volkswagen Touareg glas a Volvo 940 gwyn.

Pynciau Cysylltiedig