Dwy ddynes mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad

Abergele Image copyright Google
Image caption Mae Stryd y Farchnad yn Abergele yn ffordd brysur

Mae dwy ddynes yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol iawn yn dilyn gwrthdrawiad yn Abergele, Sir Conwy, fore Llun.

Cafodd yr heddlu alwad ychydig wedi 11:00 yn son am wrthdrawiad rhwng fan Mercedes Sprinter wen a'r ddwy ar Ffordd y Farchnad.

Cafodd y ddwy eu cludo i Ysbyty Glan Clwyd gydag anafiadau sy'n peryglu eu bywydau.

Dywedodd Sarjant Emlyn Hughes o Uned Blismona'r Ffyrdd: "Roedd yr ardal yn brysur adeg y gwrthdrawiad, felly rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd â thystiolaeth dash-cam i gysylltu â ni."

Fe wnaeth gyrrwr y fan, dyn 60 oed, fethu prawf cyffuriau gan brofi'n bositif am y cyffur cocên.

Mae wedi ei ryddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau, gyda'r heddlu yn aros am ganlyniadau profion eraill gafodd eu gwneud.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu'r Gogledd gan ddefnyddio'r cyfeirnod Y026431.