Gall cost llifogydd fod yn '£100m neu fwy'

Nantgarw Image copyright Wales News Service
Image caption Fe welwyd llifogydd, fel yma yn Nantgarw, ar draws Rhondda Cynon Taff y penwythnos diwethaf

Yn ôl prif weinidog Cymru fe allai cost y difrod o'r llifogydd diweddar fod yn "£100m neu fwy".

Dywedodd Mark Drakeford wrth BBC Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at y Trysorlys yn Llundain yn dweud eu bod angen cymorth ariannol.

Ychwanegodd Mr Drakeford na allai "fod yn fanwl" oherwydd bod maint y difrod yn dal i gael ei asesu a bod llefydd yn parhau dan ddŵr.

"Mae'n mynd i gostio degau o filiynau o bunnoedd, o bosib £100m neu fwy," meddai.

Pan gafodd ei holi a fyddai'n falch o weld Boris Johnson yn ymweld â'r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio, dywedodd Mr Drakeford: "Mae gen i fwy o ddiddordeb yn ei waled na'i wellies."

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa £10m er mwyn helpu pobl a busnesau sydd wedi dioddef o ganlyniad i'r llifogydd.

'Ffrae wleidyddol'

Yn y cyfamser mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud ei fod yn siomedig fod Mr Drakeford wedi troi'r mater o arian ar gyfer dioddefwyr y llifogydd yn "bwnc gwleidyddol".

Dywedodd Simon Hart wrth BBC Cymru fod Llywodraeth San Steffan yn aros am asesiad eglur o'r sefyllfa cyn cytuno i ryddhau unrhyw arian.

Yn gynharach yn y dydd roedd Mr Drakeford wedi dweud wrth Aelodau Cynulliad fod Trysorlys Llywodraeth y DU wedi mynnu ad-daliad ar fyr rybudd o £200m fis diwethaf ar ôl ail-gyfrifo taliad o dan fformiwla Barnett.

Image caption Fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart gyhuddo Mark Drakeford o droi'r llifogydd yn "bwnc gwleidyddol"

Dywedodd Mr Hart: "Fe drodd y sefyllfa'n un wleidyddol yn syth. Dyma'r adeg olaf ddylen ni fod yn sgorio pwyntiau gwleidyddol rhad am bwy sydd yn ddyledus am beth.

"Y ffaith yw ein bod wedi dweud o'r cychwyn cyntaf, unwaith mae Llywodraeth Cymru wedi darganfod yn union beth sydd ei angen arni... yna wrth gwrs fe fydd Llywodraeth y DU yn cymryd hyn o ddifrif.

"Ddoe roedd y prif weinidog yn gwbl fodlon gyda'r awgrym yma."

Ychwanegodd fod angen dod o hyd i'r ffeithiau yn gyntaf cyn dosbarthu unrhyw arian, ac y byddai'r llywodraeth yn aros i gael darlun eglur o'r sefyllfa gyntaf.

Dadlau yn y Senedd

Yn y Senedd brynhawn ddydd Mawrth fe wnaeth Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, wrthod ag ateb cwestiwn gan AC Ceidwadol am y llifogydd gan gwyno am "oslef" y cwestiwn dan sylw.

Roedd yr Janet Finch-Saunders AC wedi galw ar Lesley Griffiths am atebion ynghylch cyhoeddiad am arian ar gyfer pobl oedd wedi dioddef o achos Storm Ciara.

Gofynnodd AC Aberconwy: "Pam ei fod wedi cymryd tan ar ôl Storm Dennis i'r Prif Weinidog gyhoeddi cymorth ariannol i unigolion oedd wedi dioddef effaith Storm Ciara?"

Dywedodd Ms Griffiths nad oedd hi'n hoffi goslef ei llais, gan ei chyhuddo o laswenu gan ddweud "nad oedd hi'n haeddu ateb".

Image caption Doedd Lesley Griffiths ddim yn hapus gyda thôn llais yr AC Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn ystod y drafodaeth

Ychwanegodd ei bod wedi ymweld â Llanrwst ei hun ar 13 Chwefror gan siarad gyda nifer o drigolion yr ardal.

"Nid oedd un ohonyn nhw wedi defnyddio'r un oslef â chi - dim un ohonyn nhw," meddai.

Dywedodd fod angen amser i wneud cyhoeddiad am arian cyhoeddus gan fod angen bod yn atebol am yr arian hwnnw.

Yn ddiweddarach dywedodd Ms Finch-Saunders wrth BBC Cymru ei bod yn "siomedig iawn" gydag ymateb y gweinidog, gan ei ddisgrifio fel un "rhyfeddol" a "difrïol".

"Dydy o ddim yn ymddygiad fyddwn i'n ystyried yn addas pan fo aelod o'r Cynulliad yn trafod mater mor ddifrifol," meddai.

Straeon perthnasol