Dioddefwyr llifogydd mewn perygl o gael eu twyllo

Ty yn Nantgarw
Image caption Fe fydd hi'n cymryd rhai wythnosau, os nad misoedd, i bobl ddychwelyd i'w cartrefi wedi'r llifogydd diweddar

Mae pobl sydd wedi colli popeth yn y llifogydd diweddar mewn perygl o gael eu targedu gan sgamwyr a chamwybodaeth ar-lein, yn ôl un elusen.

Dywedodd Cyngor ar Bopeth ei fod yn bryderus ynglŷn â'r cynnydd yn nifer yr hysbysebion ffug sy'n ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl yr elusen mae'r hysbysebion yn cynnig helpu dioddefwyr yn gyfnewid am wybodaeth bersonol, gan gynnwys manylion banc.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn gwneud ymholiadau ac yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus o bobl sy'n galw heb wahoddiad.

Dywedodd y gallai'r galwyr rheiny fod yn honni eu bod yn cynrychioli cwmnïau yswiriant neu'n gofyn am roddion wrth y drws.

Daw'r alwad ar ôl i Michelle Cartwright, o ardal Caerffili, ddweud bod gweithwyr cyngor ffug a honnodd eu bod yn ei helpu i glirio ei chartref ar ôl i'r stormydd, fynd â'i phopty, peiriant golchi a theledu.

Fe gollodd bron popeth yr oedd hi'n berchen arno pan ddaeth Storm Dennis â thros droedfedd o ddŵr i mewn i'r fflat.

"Mae hwn wedi fy ninistrio, 'dwi ddim yn gwybod beth i'w wneud... 'dwi mor ffodus nad oeddwn i yma ar y pryd, neu fel arall byddwn wedi deffro yng nghanol y dŵr," meddai.

Wrth siarad am y sgamwyr, dywedodd: "Fe aethon nhw â'r popty, fy sychwr golchi - fe wnaethon nhw hyd yn oed gymryd fy nheledu.

Image copyright @gtfm1079
Image caption Fe orlifodd nentydd ac afonydd i dai, fel yma yn Nhrefforest, ger Pontypridd, fore Sul

"Nid fi yw'r unig un sydd wedi wynebu hyn, mae yna bobl eraill yn mynd trwy'r un peth.

"Ond pan rydych chi ar eich pen eich hun a does gennych chi ddim llawer... 'dwi'n teimlo'n flin dros y bobl fregus arall sydd allan yna."

Mae Rob Hope yn ymgynghorydd Cyngor ar Bopeth yn Rhondda Cynon Taf, un o'r ardaloedd a gafodd ei daro waethaf gan y llifogydd.

Dywedodd fod y cyngor sir wedi "nodi bod yna bobl sy'n ymweld â chartrefi sydd wedi dioddef llifogydd, sy'n honni bod yna ar ran y cyngor, y gymdeithas dai leol neu gwmni cyflenwi gwasanaethau ac yna'n cael mynediad i'r eiddo".

'Mae'n warthus'

"Byddem bob amser yn dweud peidiwch â gadael i unrhyw un ddod i mewn oni bai eu bod yn gallu profi pwy ydyn nhw a'u bod yn dod o gorff dilys.

"Ond yn anffodus mae'n ymddangos bod y pethau hyn yn digwydd.

"I bobl sydd eisoes wedi eu llorio gan yr hyn sydd wedi digwydd, ac sy'n chwilio am gefnogaeth, mae'r syniad eu bod yn cael eu twyllo gan rywun am wybodaeth a fydd yn eu galluogi i gymryd mantais yn ariannol yn warthus. "

Image caption Pobl yn clirio dŵr o'u cartrefi wedi'r llifogydd diweddar

Sgamwyr yn gweithredu

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cael gwybod y gallai "galwadau digymell, sy'n honni eu bod gan asiantaethau yswiriant, fod yn gweithredu ledled de Cymru".

Mae "ymholiadau'n parhau", medd y llu, gan atgoffa'r cyhoedd i "fod yn wyliadwrus o alwadau ffôn neu e-byst sy'n cynnig taliadau yswiriant i chi neu'n gofyn am fanylion eich banc heb reswm amlwg".

Ychwanegodd: "Os yw cynnig yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod e. Cwestiynwch e bob amser."

Mae'r llu hefyd yn ymwybodol o sgam sy'n rhoi'r argraff eu bod yn hel arian ar gyfer cynorthwyo'r ymdrechion i glirio'r dinistr.

Mae'n rhybuddio "preswylwyr hael" i fod yn wyliadwrus o bobl yn gofyn am arian ar gyfer cynlluniau rhodd o'r fath, ac i ofyn am gerdyn adnabod bob tro.

"Bydd galwyr cyfreithlon yn hapus i aros y tu allan i'ch eiddo tra bod y cwmni'n cael ei alw i wirio cerdyn adnabod."

Straeon perthnasol